Aelodau
Aelodau Cysylltiol
Hugh James
- Cyfeiriad: Two Central Square, Caerdydd, CF10 1FS
- E-bost cyswllt: Aled.Walters@hughjames.com
- Rhif ffôn swyddfa: 029 2267 5530
- Prif genres cynhyrchu: Mae Hugh James yn gwmni cyfreithiol gwasanaeth llawn ac ymhlith y 100 gorau yn y DU, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, gydag is adran Cyfryngau arbenigol. Yn ddiweddar, gwnaethom gaffael y cwmni cyfreithiol Loosemores, cwmni bwtîc sefydledig gyda ffocws penodol ar gyfraith y Cyfryngau ac Adloniant, sydd wedi cryfhau ein harbenigedd ymhellach ar draws y sector.
Rydym yn cynghori unigolion, cwmnïau cynhyrchu, darlledwyr, sylfaenwyr, buddsoddwyr a dosbarthwyr mewn perthynas â phob agwedd o gyfraith y cyfryngau ac adloniant. Mae ein profiad yn pontio pob agwedd o’r diwydiant gan gynnwys teledu, ffilm, radio, cerddoriaeth a digwyddiadau byw.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys: Comisiynu, cytundebau cynhyrchu a chyd-gynhyrchu; cytundebau ariannu prosiect; bargeinio fformat teledu; cytundebau Trwyddedu; cytundebau Dosbarthu, clirio hawliau/cadwyn teitl; digwyddiadau byw; cytundebau talent; cynghori corfforaethol cyffredinol a mwy.
Mae nifer o’n cyfreithwyr wedi gweithio’n fewnol yn flaenorol i’r prif ddarlledwr Cymraeg S4C a’i debyg, ac felly mae ganddynt wybodaeth fanwl am y diwydiant teledu o’r tu chwith allan.
- Gwobrau / Comisiynau: Rydym ar y brig ar gyfer Cyfryngau ac Adloniant gan Chambers & Partners a The Legal 500 2023 Legal Directory Guides. Mae Aled Walters, Mark Loosemore a Sara Griffiths hefyd yn cael eu cydnabod fel Unigolion Arweiniol ar gyfer cyfraith Cyfryngau ac Adloniant yng Nghymru.
Mae’r cwmni hefyd yn aelod proffesiynol o PACT (undeb masnach cwmnïau cynhyrchu teledu’r DU), ac mae ein cyfreithwyr yn aelodau o RTS (Royal Television Society).