>

Amdanom Ni

 

Daeth y sector cynhyrchu teledu annibynnol Cymraeg i fodolaeth yn iawn yn 1982, ynghyd â gweddill sector y DU. Digwyddodd hyn pan sefydlwyd Channel 4 a S4C fel darlledwyr / gyhoeddwyr cyhoeddus; sefydliadau a fyddai’n comisiynu eu holl gynnwys gan gwmnïau cynhyrchu annibynnol yn hytrach na chynhyrchu eu rhaglenni eu hunain.

Mae cwmnïau cynhyrchu teledu Cymraeg ymhlith y mwyaf yn y farchnad, yn ogystal â bod yn ffactor allweddol yn nhwf a hyrwyddo diwylliant a hunaniaeth gynhenid Cymru.

Dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae TAC wedi cynrychioli’r sector cynhyrchu teledu annibynnol wrth drafod telerau masnach a materion busnes ehangach gydag S4C a chyrff eraill yn y diwydiant, yn ogystal â darparu mewnbwn i greu polisïau ar lefel Cymru a’r DU ym meysydd y diwydiannau creadigol, darlledu a sgiliau.

Aelodau’r sector cynhyrchu annibynnol sy’n gyfrifol am greu’r rhan fwyaf o gynnwys S4C. Erbyn hyn, gellir gwylio’r cynnwys hwn ar y teledu ac ar-lein ledled y DU, drwy wasanaeth S4C Clic yn ogystal â BBC iPlayer. Mae hyn yn hanfodol wrth ddod â chynnwys teledu Cymru at sylw cynulleidfa ehangach.

Mae TAC yn parhau i gynrychioli ei aelodau a darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys cytundebau safonol a chefnogaeth materion busnes, cynrychiolaeth polisi a darparu rhaglen hyfforddiant a sgiliau.

Rydyn ni hefyd yn cynrychioli’r sector drwy ymgysylltu â gwneuthurwyr polisi a’r diwydiant ehangach.

accident

Cyngor TAC

Cysylltu â ni