Digwyddiadau

Croeso i’r cyrchfan gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd o ddiddordeb i’r sector cynhyrchu. Os ydych yn dymuno hyrwyddo digwyddiad, anfonwch y manylion, ac fe wnawn ein gorau i helpu.

BAFTA Cymru 2018

Llongyfarchiadau mawr i’n holl aelodau buddugol yn noson wobrwyo BAFTA Cymru 2018 ar 14 Hydref, ac i bawb a dderbyniodd enwebiad. Edrychwn ymlaen at weld rhagor ohonoch ar y llwyfan y flwyddyn nesaf.

FOCUS 2018

FOCUS logoMae TAC yn falch o gyhoeddi ein bod yn bartner diwydiant yn y gynhadledd gynhyrchu flaenllaw hon ar 4–5 Rhagfyr yn Llundain. Gellir cofrestru’n ddi-dâl. Mae’r thema a rhestr gychwynnol o sesisynau yn hysbys erbyn hyn, a bydd rhagor i ddilyn. Mi fydd TAC yn bresennol gydol y ddau ddiwrnod, felly cysylltwch â chroeso os am gwrdd yno.

Cysylltu â ni