Hyfforddiant

Croeso i hafan hyfforddiant TAC. Mae TAC yn parhau i ddatblygu ein rhaglen hyfforddiant ar gyfer 2023 yn unol â blaenoriaethau’r aelodaeth. Croeso i chi gysylltu â Sioned Harries gydag unrhyw ymholiadau penodol.

Edrych am gymorth ariannol i’ch helpu ddatblygu eich gyrfa? 

Mae’r Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig yn rhoi cefnogaeth ariannol i unigolion sydd am ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a chyfryngau newydd. Gallant hefyd roi cymorth i fudiadau sy’n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol er budd y sector greadigol. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y wefan: https://ymddiried.cymru

Sefydlwyd partneriaeth hyfforddiant TAC S4C yn 2019 i ddatblygu sgiliau yn y sector a sicrhau bod cynyrchiadau yn ateb y safonau gofynnol.

Mae’r rhaglen hyfforddiant yn canolbwyntio ar 4 prif faes sef:

Blaenoriaethau Strategaeth S4C fel comisiynydd a darlledwr

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – sesiynau amrywiol

Hyfforddiant cynhyrchu a sgiliau ehangach – sesiynau amrywiol

Hyfforddiant a chanllawiau sy’n benodol i’r diwydiant yn cynnwys:

  • Diogelu Plant yn y Cyfryngau gyda’r NSPCC yn unol â Chanllawiau a Pholisi Amddiffyn Plant  S4C
  • Hyfforddiant Rheoli Risg Cynyrchiadau er mwyn cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol
  • Gweithdai a sesiynau galw heibio chwarterol yn 2023 gyda’r PRS ar glirio cerddoriaeth
  • Hyfforddiant BAFTA albert

Mae’r pedwar cwrs yma yn cael eu cynnal yn ôl y galw – os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r sesiynau hyfforddiant yma, neu os hoffech i ni drefnu hyfforddiant yn uniongyrchol i’ch cwmni cynhyrchu chi, gallwch gofrestru eich diddordeb trwy’r ffurflen yma.