Clinig cyfraith cyflogaeth cyfnod Covid-19, 22 Mehefin 2020
Mae TAC yn falch o gyflwyno sesiwn newydd i gynllun hyfforddiant TAC/S4C ar ffurf sesiwn holi ac ateb ar faterion cyfraith cyflogaeth yn ystod cyfnod Covid-19 o dan ofal cyfreithwyr profiadol Hugh James. Dyma gyfle i holi am: seibiant o’r gwaith (furlough) llawn amser a rhan amser; cytundebau parhaol; PAYE; IR35; cytundebau dros dro; strwythuro swyddi yn dilyn cyfnod seibiant o’r gwaith; cyflogi staff newydd o dan yr amodau presennol neu unrhyw fater arall sy’n berthnasol.
Cynhelir y cwrs ar Zoom. A fuasech cystal â chyflwyno’ch cwestiwn ymlaen llaw er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfle hwn, os gwelwch yn dda? Bydd yr atebion yn cael eu rhannu yn ystod y sesiwn, ac yna bydd cyfle i ofyn unrhyw gwestiwn sy’n deillio o’r atebion gwreiddiol. Mae gofyn cofrestru drwy’r ffurflen isod i gadarnhau eich lle.
Dyddiad: Llun 22 Mehefin 2020, 2.00-3.30pm
Lleoliad: Zoom
Cost: aelodau TAC: £40; eraill: £80; rhyddgyfranwyr: cysylltwch i holi am y cyfraddau
Arweinwyr: Elinor Corbett-Jones ac Aled Walters, Hugh James
Dyddiad cau cofrestru: Mawrth 16 Mehefin 2020, 12.00pm
Ymholiadau: Rowena Griffin, 07551 257274
Cysylltu â ni
Rhif ffôn: 07388 377478
Ebost: luned.whelan@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW