Cwrs Rheoli Cynyrchiadau’n Ddiogel, 1 Ebrill 2020, Caerdydd
Diweddariad 12 Mawrth 2020
Mae’r cwrs hwn bellach yn llawn.
Os hoffech roi’ch enw ar restr wrth gefn, cysylltwch â Rowena Griffin.
Mae TAC yn cynnal cwrs Rheoli Cynyrchiadau’n Ddiogel (Iechyd a Diogelwch cynt) o dan arweiniad Alan Gwynant, arbenigwr â blynyddoedd o brofiad ar gynyrchiadau ac mewn digwyddiadau mawr. Byddwch yn derbyn cymhwyster pasbort pum mlynedd gan gwmni 1st Option, sy’n cael ei dderbyn gan y prif ddarlledwyr yn y DU, felly mae’n hyfforddiant gwerth chweil. Cofrestrwch isod cyn gynted â phosib – mae galw mawr am y cwrs hwn, a’r cyntaf i’r felin …
Dyddiad: Mercher 1 Ebrill 2020, 9.30-4.30
Lleoliad: ar-lein
Cost: aelodau TAC: £95, eraill: £165
Hyfforddwr: Alan Gwynant, Almair
Dyddiad cau cofrestru: Llun 23 Mawrth 2020
Ymholiadau: Rowena Griffin, 07551 257274
Darperir te a choffi. Gellir prynu cinio yn y gwesty ac mewn nifer o fannau cyfagos.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn: 07388 377478
Ebost: luned.whelan@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW