>

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: Gweithdy Sglein (Sesiwn Saesneg) – 20 Ebrill 2023

Mae TAC yn falch i gyhoeddi ein bod yn cynnal gweithdy ar Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiad o dan arweiniad Huw Thomas o gwmni hyfforddiant Sglein. Dyma gyfle i ddysgu, trafod a gofyn cwestiynau er mwyn galluogi i chi feithrin gweithleoedd cynhwysol.

Yn y sesiwn yma, byddwn yn edrych ar:

  1. Beth mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn olygu o ddydd i ddydd?
  2. Sut ydym ni wedi cyrraedd y sefyllfa bresennol?
  3. Pa gamau ymarferol allwn ni eu cymryd a sut allwn ni weithio trwy unrhyw rwystrau?
  4. Chwarae fy rhan – beth ydw i’n ei wneud nesa?

Nodwch: Gallwch gofrestru isod, a gall hyd at 16 o bobl ddod i’r sesiwn. Os oes galw’r tu hwnt i hyn, byddwn yn cynnig dyddiadau pellach. Cynhelir y sesiwn hon yn Saesneg.

Gall gweithwyr llaw-rydd gofrestru’n rhad ac am ddim drwy gysylltu â Sioned Harries drwy e-bost.

Dyddiad: Dydd Iau 20 Ebrill 2023

Amser: 9.30yb.-12.30yp

Lleoliad: Zoom

Cost: £60+ TAW i aelodau TAC, eraill: £120+TAW

Cysylltu â ni