Cyflwyniad i Ddiogelu Plant yn y Cyfryngau: cwrs ar-lein 5-7 Mai 2020
Mi fydd TAC yn cynnal ei gwrs penodol gyda’r NSPCC ar-lein dros dri bore mewn sesiynau dwy awr er mwyn i chi gymhwyso neu ailgymhwyso fel person dynodedig gan S4C i ddiogelu plant ar gynyrchiadau. Mae’r cwrs wedi ei ddatblygu i ddiwallu anghenion y sector a meithrin defnydd arferion gorau. Carl Harris, yr hyfforddwr profiadol, fydd yn arwain y cwrs ar Zoom, a bydd gwybodaeth trwyddedu’n cael ei dosbarthu yn ystod y sesiynau. Mae lle i 16 o bobl ar y mwyaf, a chynhelir y cwrs yn Saesneg. Mae gofyn cofrestru drwy’r ffurflen isod i gadarnhau eich lle.
Dyddiadau: Mawrth, Mercher, Iau 5, 6 a 7 Mai 2020, 10.00-12.00pm
Lleoliad: Zoom
Cost: aelodau TAC: £60; eraill: £80; rhyddgyfranwyr: holwch am y cyfraddau
Hyfforddwr: Carl Harris, NSPCC
Dyddiad cau cofrestru: Mawrth 28 Ebrill 2020, 12.00pm
Ymholiadau: Rowena Griffin, 07551 257274
Cysylltu â ni
Rhif ffôn: 07388 377478
Ebost: luned.whelan@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW