Cyflwyniad i Iechyd Meddwl yn y Gweithle, Caernarfon, 22 Ionawr 2020
Diwrnod o hyfforddiant wedi ei ddarparu gan elusen Mind i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am iechyd meddwl. Mae’n darparu trosolwg ac yn craffu ar achosion problemau iechyd meddwl. Byddwch yn dysgu adnabod arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl, a pha gefnogaeth sydd ar gael. Nod arall hyfforddiant Mind ydy herio’r stigma sy’n aml yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Cofrestrwch isod i ragnodi eich lle.
Adborth gan aelodau TAC i sesiwn Caerdydd ym mis Tachwedd 2019
“Cyngor gwerthfawr ar sut i ddelio hefo problemau iechyd meddwl yn y gweithle a lle i gyfeirio pobl sy’n dioddef. Fideos gwych i fynd yn ôl i’r gwaith i rannu hefo cydweithwyr i godi ymwybyddiaeth.”
“Cyflwyniad buddiol i’r elfennau’n gyffredinol.”
“Licio’r fideos yn enwedig – yn dda i rannu â chydweithwyr er mwyn dechrau sgwrs.”
Dyddiad: dydd Mercher 22 Ionawr 2020, 9:30–4.30pm
Lleoliad: Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon LL55 1SR
Cost: Aelodau TAC: £150, eraill: £230
Dyddiad cau cofrestru: dydd Iau 9 Ionawr 2020
Ymholiadau: Rowena Griffin, 07551 25274
Darperir te a choffi. Mae cinio ar gael i’w brynu ar y safle ac yn lleol.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn: 07388 377478
Ebost: luned.whelan@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW