Digwyddiad – Concro’r Byd

Concro’r Byd

 

Dyddiad: Dydd Mawrth 28 Mawrth 2023

Amser: 9.45yb-14.00yp

Lleoliad: Ystafell Zen, Prifysgol De Cymru, Campws Caerdydd, 86-88 Adam Street, Caerdydd, CF24 2FN

Cost: Am ddim.

Ydych chi’n gwmni cynhyrchu sydd eisiau dechrau gweithio’n rhyngwladol a ddim yn siwr ble i ddechrau? Neu a oes gennych chi brofiad o weithio’n rhyngwladol ac eisiau gwybod mwy am y camau nesaf i’w dilyn?

Mae TAC, ar y cyd gydag Adran Busnes a Masnach y DU a S4C wedi trefnu sesiwn ddysgu a fydd yn cynnig:

  • Man cychwyn a hyder i archwilio cyfleoedd rhyngwladol
  • Awgrymiadau ar sut gallwch gael mynediad at wasanaethau cymorth rhyngwladol ehangach i asesu os ydych yn barod i allforio
  • Dysgu drwy enghreifftiau astudiaeth achos gan gwmnïau sydd wedi cymryd y cam cyntaf i fynd yn fyd-eang

Gwybodaeth am y digwyddiad

09:45 – 10:15 – Te a choffi

10:15 – 10:30 – Croeso gan Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC a chyflwyniad ar strategaeth ryngwladol S4C gan Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C.

10:30 – 11:30 – BFI a Chyfleoedd Ariannu. Mae Cronfa Sgrîn y DU, a weinyddir gan y BFI, wedi’i ddylunio i hybu cyfleoedd rhyngwladol ar gyfer sector sgrin annibynnol y DU ar draws ffilm, teledu, animeiddio a gemau. Dewch i gwrdd â’r tîm, ynghyd â Cynhyrchiadau ieie, cwmni cynhyrchu wedi’i leoli yng Nghaerdydd, sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy linyn ariannu Datblygu Busnes Rhyngwladol y gronfa. Bydd y sesiwn yn gyfle i glywed mwy am yr hyn sydd ar gael i gwmnïau o Gymru drwy’r adnodd yma sydd ar gael ar draws y DU.

11:45 – 12:45 – ‘Concro’r Byd’ – trafodaeth banel a fydd yn ymdrin â llu o bynciau sy’n ymwneud â gweithio’n rhyngwladol yn cynnwys: rôl dosbarthu, astudiaethau achos, gwersi a ddysgwyd, cyngor a’r camau nesaf ar ôl llwyddo. Bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau i’r panel.

13:00 – 14:00 – Yna bydd gwahoddiad i chi aros am ginio, yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio pellach gyda siaradwyr a mynychwyr y bore a bydd cyfle hefyd i siarad gyda chynrychiolwyr o Adran Busnes a Masnach y DU.

Mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn ddiwrnod cyffrous ac addysgiadol i gwmnïau annibynnol yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu holl aelodau TAC i ymuno â ni.

14:00 – 19:00 – * Media Cymru x Prifysgol De Cymru: Cynhadledd Gwella’r Gweithle. Nodwch fod hwn yn ddigwyddiad ar wahân i’r digwyddiad bore a drefnir gan TAC, Adran Busnes a Masnach y DU ac S4C, ond mae pob croeso i chi aros a mynychu’r gynhadledd hon hefyd.

*Bydd rhaid i chi gofrestru ar gyfer Media Cymru x Prifysgol De Cymru: Cynhadledd Gwella’r Gweithle fel digwyddiad ar wahan.

Mae’r cofrestriad wedi cau ar gyfer y digwyddiad.

Cysylltu â ni