Diweddariad ar Iechyd a Diogelwch yn ystod Covid-19: seminarau 19 Tachwedd 2020
Mae TAC yn falch o gyhoeddi ein bod yn darparu dau seminar ar Zoom i’ch diweddaru ar ganllawiau a datblygiadau Iechyd a Diogelwch yng nghyfnod Covid-19 ar 19 Tachwedd 2020 o dan arweiniad Alan Gwynant o gwmni Almair. Cynhelir sesiwn yn Gymraeg am 10.00a.m. a sesiwn yn Saesneg am 2.00p.m. Mae cyfle i chi ateb cwestiwn ymlaen llaw a derbyn ateb yn ystod y seminarau, ac mi fydd cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y sesiwn hefyd.
Mae croeso i weithwyr llaw-rydd gofrestru am ddim. Am fanylion pellach, cysylltwch â Luned Whelan. Nodwch y bydd y cyflwyniad craidd yn debyg i’r un a gyflwynwyd i chi dros yr haf, ac mai diweddariadau ac atebion i gwestiynau’r cyfranwyr fydd unrhyw ddeunydd newydd. Cofrestrwch isod ar gyfer y sesiwn Gymraeg.
Dyddiad: dydd Iau 19 Tachwedd 2020
Amser: 10.00a.m. (Cymraeg) / 2.00p.m. (Saesneg)
Lleoliad: Zoom
Dyddiad cau: dydd Llun 9 Tachwedd 2020, 12.00p.m.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn: 07388 377478
Ebost: luned.whelan@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW