Gweithdy Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiad, 18 Medi 2020
Mae’r gweithdy hwn yn llawn ar gyfer 18 Medi 2020.
Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiwn nesaf ar 16 Hydref 2020 drwy’r wefan
Mae TAC yn falch o gyhoeddi ein bod yn parhau â’n cyfres o sesiynau hyfforddiant amrywiaeth ar ffurf gweithdy Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiad o dan arweiniad Huw Thomas o gwmni hyfforddiant Sglein. Dyma gyfle i ddysgu, trafod a gofyn cwestiynau er mwyn galluogi i chi feithrin gweithleoedd cynhwysol.
Mae S4C wedi ymrwymo i adlewyrchu Cymru heddiw ar y sgrin a‘r tu ôl i’r camera; gweler ei Ymrwymiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad cyfredol. Mae S4C yn gweithredu’r ymrwymiad, ac yn cymryd camau i ehangu’r sector ac i annog gweithlu mwy amrywiol. Mae S4C eisiau gweld a chlywed cyfranwyr, lleisiau a chymunedau newydd ar y sgrin ac yn creu cynnwys.
Nodwch: mae gwaith paratoi i’w wneud ymlaen llaw, a fydd yn cael ei anfon atoch wythnos cyn y gweithdy. Gallwch gofrestru isod, a gall hyd at 16 o bobl ddod i’r sesiwn. Os os oes galw’r tu hwnt i hyn, byddwn yn cynnig dyddiadau pellach. Cynhelir y sesiwn hon yn Gymraeg.
Dyddiad: dydd Gwener 18 Medi 2020
Amser: 9.30a.m.-12.30p.m.
Lleoliad: Zoom
Dyddiad cau: dydd Mercher 9 Medi 2020, 12.00p.m.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn: 07388 377478
Ebost: luned.whelan@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW