Gweithdy Hijinx, Chapter, Caerdydd, 16 Ionawr 2020
Cwmni theatr proffesiynol nid er elw ydy Hijinx. Mae’n castio actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth (LD/A) mewn cynyrchiadau sy’n ennill gwobrau lu ac yn teithio ledled y byd. Mae gan Hijinx rwydwaith o dros 60 o actorion proffesiynol drwy Gymru gyfan sydd ag anableddau dysgu neu ddatblygiadol, gan gynnwys Syndrom Down, awtistiaeth a Syndrom Asperger.
Mae Hijinx yn cynnig hyfforddiant cyfathrebu arbenigol i staff sy’n ymwneud â’r cyhoedd ac sy’n debygol o gwrdd â chyd-weithwyr neu glientiaid bregus. Mae’n hyfforddiant unigryw oherwydd mai actorion LD/A sy’n ei gyfleu, ar y cyd â hwylusydd niwrolegol nodweddiadol, ac mae bob amser yn weithdy rhyngweithiol, egnïol a chreadigol. Mae TAC a Hijinx wedi cydweithio i ddatblygu sesiwn hanner diwrnod penodol ar gyfer ein cyd-weithwyr yn y sector cynhyrchu. Cofrestrwch isod i fanteisio ar y cyfle arbennig hwn.
Aborth aelodau gweithdy Prestatyn, Hydref 2019
“Roedd y cyflwyniadau, yr enghreifftiau ymarferol a’r senarios gan yr actorion yn eithriadol o ddefnyddiol.”
“Gonestrwydd geirfa a sefyllfaoedd i’n haddysgu. Buasai cymaint o bobl yn cael budd ohono.”
“Cynyddu dealltwriaeth o sut i ymateb ac i barchu anghenion pob unigolyn.”
Dyddiad: Iau 16 Ionawr 2020, 9.30-1.00pm
Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Chapter, Market Road, Caerdydd CF5 1QE
Cost: Aelodau TAC: £120, eraill: £190
Dyddiad cau cofrestru: Mawrth 7 Ionawr 2020
Ymholiadau: Luned Whelan, 07388 377478
Darperir te a choffi.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn: 07388 377478
Ebost: luned.whelan@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW