PRS – Sesiynau ‘galw heibio’ chwarterol
Mae TAC yn hynod o falch i gyhoeddi ein bod yn cynnal sesiynau galw heibio chwarterol gyda PRS i aelodau TAC yn 2023.
Pwrpas y sesiynau sylfaenol yma fydd i roi cyfle rheolaidd i aelodau TAC i godi materion, gofyn cwestiynau a magu hyder wrth ymdrin â systemau PRS ac MCPS. Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim ar gyfer aelodau TAC.
Bydd Dai Lloyd, Cynrychiolydd PRS ar gael er mwyn ateb eich cwestiynau a’ch tywys trwy’r broses clirio. Bydd yr hanner gyntaf yn agored i siaradwyr Cymraeg a bydd yr ail hanner yn gyfle i ofyn cwestiynau trwy’r iaith Saesneg. Bydd croeso i chi fynd a dod fel sydd orau i chi.
Allwch gofrestru ar gyfer y sesiynau trwy ddefnyddio’r dolenni isod. Cysylltwch â Sioned Harries gydag unrhyw ymholiadau.
Dyddiadau:
- Dydd Mawrth, 24 Ionawr 2023 10:00 – 11:30yb
- Dydd Mawrth, 25 Ebrill 2023 10:00 – 11:30yb
- Dydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023 10:00 – 11:30yb
- Dydd Mawrth, 24 Hydref 2023 10:00 – 11:30yb
Lleoliad: Zoom
Cost: Am ddim i aelodau TAC
Arweinwyr: Cynrychiolwyr PRS
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW