>

Sesiwn dysgu BAFTA albert – 4 Mai 2023

Mae TAC yn cydweithio â BAFTA albert i ddarparu sesiwn dysgu llawn gwybodaeth a fydd yn eich arwain trwy pecyn cymorth BAFTA albert fel cwmni cynhyrchu yng Nghymru.

Mae BAFTA albert yn sefydliad sy’n arwain yn erbyn newid hinsawdd; sy’n uno’r diwydiannau sgrin i gael effaith amgylcheddol gadarnhaol ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd i weithredu ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Sefydlwyd BAFTA albert yn 2011 fel cyfrifiannell carbon i amcangyfrif faint o effaith y byddai cynhyrchiad yn ei gael ar yr amgylchedd. Neidiwch ymlaen 11 mlynedd ac mae BAFTA albert yn canolbwyntio ar ysbrydoli’r diwydiant cyfan i greu cynnwys sy’n cefnogi gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy, a galluogi’r diwydiant i wneud cyfraniadau cadarnhaol i’r amgylchedd wrth fynd ati i ddileu gwastraff ac allyriadau carbon o gynhyrchu.

Gweler gwybodaeth am y sefydliad: https://wearealbert.org/

Bydd y sesiwn ddysgu hon, sydd wedi’i theilwra yn arbennig ar gyfer cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru gyda chymorth ein haelodau, yn cynnwys:

  • Arweinydd y sesiwn yn eich tywys trwy becyn cymorth BAFTA albert
  • Cyngor ar sut i ddarparu’r dystiolaeth gorau
  • Trafodaeth ar y gwahaniaethau cyn-cymeradwyo a chymeradwyo
  • Sut i ddefnyddio Ecologi
  • Ymarfer gorau yng Nghymru h.y. beth all cynyrchiadau Cymru ei wneud i leihau eu hôl troed a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol
  • Cyfle i ofyn cwestiynau (Cysylltwch gyda Sioned Harries gyda’r cwestiynau hoffwch godi cyn y sesiwn)

Mae’r sesiwn yma yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â Sioned Harries gydag unrhyw ymholiadau.

Dyddiad: Dydd Iau 4 Mai 2023, 10:00yb – 11:30yb

Lleoliad: Zoom

Pris: Am ddim

Iaith: Saesneg

Arweinwr y sesiwn: Eve Stollery, Sustainable Production Assistant (BAFTA albert)

Nodwch, bydd y sesiwn yma yn cael ei recordio.

Cysylltu â ni