Sesiwn Ymwybyddiaeth Hil – 30 Tachwedd

Mae’r sesiwn yma yn cynnig cyfle i ddysgu am hiliaeth a’r amrywiol ffyrdd y gall ymddangos o fewn cymdeithas. Bydd themâu sensitif yn cael eu harchwilio megis micro-ymosodedd ac iaith hiliol. Trwy weithgareddau grŵp, bydd cyfranogwyr yn medru meddwl yn feirniadol a deall pwysigrwydd dylanwadau, a sut gall hyn effeithio ar wneud penderfyniadau ac ymddygiad. Bydd y sesiwn yn helpu i gynyddu’r wybodaeth a’r hyder i hyrwyddo cydraddoldeb hil a chefnogi cyflogwyr tuag at gynhwysiant a chynrychiolaeth yn y gweithle. Trwy drafodaethau agored a gonest, bydd gan gyfranogwyr gwell dealltwriaeth o gymunedau amrywiol a bydd syniadau yn cael eu rhannu ar sut gallwn wella cydraddoldeb hiliol yn ein cymdeithas.

Mae meysydd dysgu yn cynnwys:

  • Codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau hiliaeth a’r effaith ar gymdeithas.
  • Deall y gwahanol fathau o hiliaeth, gan gynnwys micro-ymosodedd.
  • Adnabod y manteision o groesawu gwahaniaeth.
  • Archwilio’r gwahanol fathau o ragfarn, ymwybodol ac anymwybodol, diwylliannol/cymdeithasol a phrofiad ynghyd ag archwilio’r problemau maent yn creu.
  • Herio stereoteipiau cyffredin, camsyniadau ac agweddau rhagfarnllyd mewn cymdeithas.
  • Grymuso unigolion i deimlo’n fwy hyderus wrth drafod cydraddoldeb hiliol.

 

Dyddiad: Dydd Iau, 30 Tachwedd 2023, 10:30 – 13:30

Lleoliad: Ystafell Ddysgu 1, Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1BH

Pris: aelodau TAC: £60+ TAW, eraill: £120+ TAW

Iaith: Saesneg

Arweinydd y sesiwn: Sunil Patel, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithrediadau No Boundaries.

 

Mae cofrestriad ar gyfer y sesiwn hyn nawr wedi cau.

Cysylltu â ni