S4C yn cyhoeddi Cronfa Ryngwladol Geltaidd

8 August 2018

Mae S4C, BBC ALBA (gyda chyllid gan MG ALBA), TG4 a Chronfa Darlledu Iaith Sgrin Gogledd Iwerddon (ILBF) yn falch o gyhoeddi lansiad ‘Cronfa Ryngwladol Geltaidd’ a fydd yn cynnal rownd gyd-gomisiynu flynyddol rhwng darlledwyr yr ieithoedd Celtaidd ac arianwyr yn yr Alban, Cymru, Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Nod y Gronfa Ryngwladol Geltaidd yw hyrwyddo cyd-ddatblygu ac yna cydgynhyrchu yn yr ieithoedd Gaeleg, Cymraeg a Gwyddeleg, ac i hwyluso cyrhaeddiad rhyngwladol ehangach yn Ewrop ac yn fyd-eang i’r cynyrchiadau gwreiddiol yn yr ieithoedd Celtaidd hynny. Mae’r Gronfa Ryngwladol Geltaidd yn gobeithio rhoi cyfle i wneuthurwyr ffilm gyd-ddatblygu a chyflwyno gwaith nodedig, uchelgeisiol i gyfoethogi amserlenni oriau brig, i gael dylanwad cenedlaethol ar gynulleidfaoedd yn yr Alban, Cymru, Iwerddon a Gogledd Iwerddon, ac i geisio cyrraedd cynulleidfaoedd ledled y byd.

Mae’r gwahoddiad cyntaf hwn i ymgeisio’n cwmpasu tri genre: Ffeithiol, Drama ac Animeiddio. Ar gyfer pob prosiect, rydym yn rhagweld cam datblygu lle byddai cyllid yn cael ei ddarparu i ddatblygu syniadau yn ogystal â’r fframwaith cydgynhyrchu. Bydd yn angenrheidiol i hwn gynnwys elfen gynhyrchu yn yr Alban, Cymru a naill ai yn Iwerddon neu yng Ngogledd Iwerddon. Mae croeso i gynhyrchwyr gynnig genres y dylid eu cynnwys yn y dyfodol mewn gwahoddiadau i ymgeisio am arian gan y Gronfa Ryngwladol Geltaidd.

Bydd y Gronfa Ryngwladol Geltaidd yn cael ei gweinyddu gan dîm comisiynu ar y cyd o blith y darlledwyr a’r arianwyr Celtaidd sy’n bartneriaid yn y cynllun hwn. Rhaid cyflwyno cynigion yn electronig gan ddefnyddio un ddogfen pdf ar gyfer syniadau ac elfennau gweledol, ac un ddogfen Excel ar gyfer cyllidebau. Rhaid i’r cwmni sy’n arwain prosiect cyd-ddatblygu gofrestru drwy borth e-gomisiynu TG4  yn gyntaf a llwytho’u cyflwyniadau erbyn y dyddiad cau: ‘Celtic Factual 2018’, ‘Celtic Drama 2018’ neu ‘Celtic Animation 2018’. Hysbysir y cwmni sy’n cyflwyno’r cais o’r penderfyniadau cychwynnol o fewn dau fis i’r dyddiad cau.

Bydd gofyn ad-dalu arian datblygu os bydd y cais yn mynd ymlaen i gyfnod cynhyrchu, a bydd y taliad yn ddyledus ar ddechra’’r cynhyrchiad. Bydd yr Eiddo Deallusol yn berchen i’r cwmnïau cynhyrchu sy’n cyd-ddatblygu’r syniad mewn modd cyd-rannu i’w gytuno rhyngddynt hwy.

CEISIADAU I’R GRONFA RYNGWLADOL GELTAIDD 2018

Datblygu Ffeithiol

Rydym yn croesawu ceisiadau â’r nod o greu argraff boblogaidd a/neu feirniadol ymhlith cynulleidfaoedd yn yr Alban, Cymru, Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Mae croeso arbennig i syniadau y gellid eu cydgynhyrchu â darlledwyr Ewropeaidd neu ledled y byd. Prosiectau derbyniol:

1) Dogfennau ffeithiol creadigol unigol (tua 75 munud o hyd)

2) Cyfres ffeithiol greadigol (rhwng tair a chwe raglen awr o hyd). Y cyllid datblygu sydd ar gael: hyd at €18,000 neu £16,000.

Pwy all ymgeisio?

Cwmnïau cynhyrchu sydd ag arbenigedd mewn rhaglenni ffeithiol yn o leiaf un o’r ieithoedd Celtaidd perthnasol ac sy’n barod i gyd-ddatblygu gyda chwmnïau cynhyrchu sy’n gweithio yn y gwledydd partner eraill.

Beth i’w gyflwyno?

1) Crynodeb byr (hyd at 30 o eiriau)

2) Crynodeb (hyd at un dudalen A4)

3) Nodiadau ar sut bydd y cyd-ddatblygiad â chwmnïau eraill yn cael ei gyflawni

4) Cyllideb datblygu

5) Amlinelliad amcanol o’r gyllideb gynhyrchu gan gynnwys ffynonellau cyllid.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dydd Mercher 19 Medi 2018.

Adran gyflwyno: Celtic Factual 2018

Datblygu Drama

Rydym yn bwriadu datblygu model newydd ar gyfer cydgynhyrchu drama wedi’i sgriptio rhwng darlledwyr yr ieithoedd Celtaidd, megis cynhyrchiad cefn-wrth-gefn ym mhob un o’r tair iaith, gan gyflwyno tair fersiwn ar wahân o un senario. Byddai croeso i bartneriaid ieithoedd ychwanegol hefyd. Prosiectau derbyniol: prosiectau ffilm deledu (tua 110 munud o hyd). Gall y prosiectau fod wedi eu seilio ar genre (ac eithrio genre trosedd), a dylid eu targedu naill ai at gynulleidfa ar ôl 9:00 y nos (ar ôl y trothwy) neu at gynulleidfa deulu. Y cyllid datblygu sydd ar gael: hyd at €60,000 neu £53,000.

Pwy all ymgeisio?

Cwmnïau cynhyrchu sydd ag arbenigedd mewn cynhyrchu drama yn o leiaf un o’r ieithoedd Celtaidd perthnasol ac sy’n barod i gyd-ddatblygu gyda chwmnïau cynhyrchu yn y gwledydd partner eraill. Beth i’w gyflwyno?

1) Crynodeb byr (hyd at 30 o eiriau)

2) Crynodeb (hyd at un dudalen A4)

3) Amlinelliad Stori (4-6 tudalen) a sampl o ddeunydd gweledol

4) Nodiadau ar sut bydd y cyd-ddatblygu gyda chwmnïau eraill yn cael ei gyflawni

5) Cyllideb datblygu

6) Amlinelliad amcanol o’r gyllideb gynhyrchu gan gynnwys ffynonellau cyllid.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dydd Mercher 24 Hydref 2018

Adran gyflwyno: Celtic Drama 2018

Datblygu Animeiddio

Rydym yn bwriadu datblygu prosiectau animeiddio hyd ffilm hir sy’n seiliedig ar themâu straeon Celtaidd (boed hynny’n chwedloniaeth neu’n straeon mwy diweddar). Byddem yn disgwyl y byddai’r rhain yn ddehongliadau cyfoes o straeon Celtaidd sy’n taro deuddeg gyda chynulleidfa deulu fodern yn y cenhedloedd Celtaidd ac yn fyd-eang. Prosiectau derbyniol: ffilmiau animeiddio hir (tua 90-110 munud o hyd). Dylai prosiectau dargedu cynulleidfa deulu, ac yn ddelfrydol, dylai fod ganddynt apêl y tu hwnt i’r tiriogaethau Celtaidd. Y cyllid datblygu sydd ar gael: hyd at €60,000 neu £53,000.

Pwy all ymgeisio?

Cwmnïau cynhyrchu sydd ag arbenigedd mewn cynhyrchu animeiddio yn o leiaf un o’r ieithoedd Celtaidd perthnasol a/neu wledydd perthnasol sy’n barod i gyd-ddatblygu gyda chwmnïau cynhyrchu yn y gwledydd eraill.

Beth i’w gyflwyno?

1) Crynodeb byr (hyd at 30 o eiriau)

2) Crynodeb (hyd at un dudalen A4)

3) Amlinelliad Stori (4-6 tudalen) a sampl o ddeunydd gweledol

4) Nodiadau ar sut bydd y cyd-ddatblygu gyda chwmnïau eraill yn cael ei gyflawni

5) Cyllideb datblygu

6) Amlinelliad amcanol o’r gyllideb gynhyrchu gan gynnwys ffynonellau cyllid.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dydd Mercher 24 Hydref 2018

Adran gyflwyno: Celtic Animation 2018

Am ymholiadau ynglŷn â’r broses ymgeisio i’r Gronfa Ryngwladol Geltaidd, cysylltwch ag Anna Marie Nic Dhonnacha.

Am ymholiadau cyffredinol parthed y Gronfa Ryngwladol Geltaidd, cysylltwch ag un o swyddogion y darlledwyr/ cyllidwyr.

BBC ALBA – Margaret Cameron

S4C – Llion Iwan

TG4 – Mary Ellen Ní Chualáin

Northern Ireland Screen / ILBF – Aine Walsh

Mae cyfeiriadur Celtic Media Festival Connect yn adnodd defnyddiol. Byddai cofrestru ar ei gyfer yn gam cyntaf buddiol.

Contact Us