Adroddiad yn rhybuddio bydd effeithiau ‘negyddol sylweddol’ o breifateiddio Channel 4

6 May 2016

Mae Adroddiad ysgrifenedig gan yr Athro Paddy Barwise a Gillian Brooks wedi ei gyhoeddi gan Channel 4, gan nodi y byddai canlyniadau’r preifateiddio yn ‘sylweddol negyddol’.

Mae’r adroddiad wedi denu sylw eithaf eang yn y cyfryngau, yn enwedig oherwydd amcan bris C4 i brynwr posibl o tua £500m.

O ran y goblygiadau ar gyfer cwmnïau annibynnol, mae’r adroddiad yn cadarnhau pryderon a godwyd eisoes gan TAC, sef y gallai wanhau Channel 4 fel y model cyhoeddwr-darlledwr 100% , ac y gellid lleihau buddsoddiadau yn enwedig ar gyfer cwmnïau annibynnol tu allan i Lundain.

Mae y datganiad i’r wasg a’r adroddiad ar gael yma.

All 4 BG logo_A2

Cysylltu â ni