Aelodau TAC yn fuddugol yn Efrog Newydd

16 May 2017

Mae dwy raglen a gynhyrchwyd gan gwmnïau annibynnol o Gymru wedi ennill gwobrau yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol Efrog Newydd 2017, ac mae un arall wedi cyrraedd y rhestr fer a derbyn tystysgrif i ddynodi hynny.

Y rhaglenni buddugol oedd y ffilm, Yr Ymadawiad – The Passing, a gynhyrchwyd gan Severn Screen mewn cydweithrediad â Boom Pictures a Ffilm Cymru i S4C, a’r rhaglen ddogfen, Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam, a gynhyrchwyd gan Caryl Ebenezer a Luned Phillips, mewn cydgynhyrchiad rhwng Rondo Media a JTV, cwmni cynhyrchu o Dde Corea. Aberfan: Cantata Memoria a gyrhaeddodd y rownd derfynol, am ddarllediad cyntaf teyrnged Karl Jenkins a Mererid Hopwood i bobl Aberfan hanner can mlynedd wedi’r drychineb a drawodd y gymuned lofaol yn Ne Cymru. Cynhyrchwyd y rhaglen gan Hefin Owen yn Rondo Media i S4C.

Caiff Yr Ymadawiad – The Passing ei darlledu ar S4C yn y dyfodol agos.

Cysylltu â ni