Alun Cairns: “Mae ein cynhyrchwyr teledu annibynnol yn llwyddiant mawr”

27 November 2014

Datganiad i’r Wasg gan Lywodraeth y DU

Gweinidog Swyddfa Cymru i bwysleisio pwysigrwydd cynhyrchwyr annibynnol Cymru yn ei araith heddiw.

Bydd gweinidog yn Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn brif siaradwr heddiw (27 Tachwedd) yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol TAC. Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Bydd hefyd yn ymweld â set y gyfres lwyddiannus ar S4C, Y Gwyll/ Hinterland, i weld y diwydiant ar waith.

Yn ei anerchiad i TAC, bydd Mr Cairns yn cydnabod pwysigrwydd aruthrol y diwydiannau creadigol yng Nghymru, diwydiant sy’n cyflogi oddeutu 50,000 yn y wlad ac sy’n cael effaith wirioneddol ar yr adferiad economaidd yng Nghymru.

Bydd yn siarad hefyd am gefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i S4C – derbyniodd y darlledwr £6.8m eleni gan y llywodraeth ganolog – a’i hymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn gyffredinol.

Dywedodd Mr Cairns:

Mae ein cynhyrchwyr annibynnol yn llwyddiant mawr yng Nghymru, gan greu swyddi a chyfleoedd i filoedd o bobl. Rydw i am iddyn nhw barhau i hybu eu gwaith rhagorol a helpu i ddatblygu’r sector – sydd â throsiant blynyddol o £1 biliwn eisoes – i roi hwb i economi Cymru.

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC:

Mae’n bleser gan TAC groesawu Mr Cairns i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, i ddangos cefnogaeth y Llywodraeth i’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru.

Mae’r sector yn chwarae rhan gwbl allweddol mewn sbarduno’r economi yng Nghymru, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Bydd TAC yn parhau i weithio’n galed er mwyn cydweithio gyda phawb fedr helpu i ddatblygu economi greadigol Cymru ymhellach.

Bydd Mr Cairns yn canolbwyntio ymhellach ar ddiwydiannau creadigol y wlad, a bydd yn gweld y gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes pan fydd yn ymweld â set y gyfres Y Gwyll/Hinterland, yn cael ei ffilmio heddiw.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

Mae’n bleser croesawu’r Gweinidog i weld y gwaith sy’n mynd rhagddo ar Y Gwyll/Hinterland. Mae ymrwymiad a chefnogaeth ariannol barhaus Llywodraeth y DU i S4C yn hynod bwysig i ni.

Mae eu cefnogaeth yn ein galluogi i barhau i gymryd risg greadigol a buddsoddi mewn prosiectau fel Y Gwyll/Hinterland, sydd wedi rhoi proffil rhyngwladol newydd i Gymru.

Prosiectau fel hyn sy’n ein helpu ni i sicrhau’r effaith economaidd fwyaf posib yn sgil gwaith S4C, gan ddarparu swyddi a buddsoddiad mewn cymunedau ledled Cymru.

Wrth i ni edrych ymlaen at raglen afaelgar nesaf Y Gwyll/ Hinterland ar S4C Ddydd Calan, rydym yn falch iawn o allu dangos y gwaith rhagorol sy’n digwydd yma yng Ngheredigion ac ar gynyrchiadau eraill ledled Cymru.

Source: https://www.gov.uk/government/news/alun-cairns-welsh-language-tv-producers-are-a-welsh-success-story

Cysylltu â ni