Cadeirydd TAC yn croesawu ariannu pellach i’r Cynllun Hwylusydd Lles
18 May 2023

Mae Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol wedi cymeradwyo cyllid pellach i’r rhaglen beilot Hwylusydd Lles. Mae Cam 2 y peilot wedi derbyn £150,000, a rôl yr Hwylusydd Lles yw cefnogi pobl sy’n gweithio yn y sector sgrin yng Nghymru gydag iechyd meddwl a llesiant. Mae’r gronfa ar agor i gwmnïau cynhyrchu ymgeisio am y grant sydd ar sail gyntaf i’r felin.
Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:
“Roedd TAC yn hynod falch o gael bod yn aelod o’r grŵp cynghori i ddatblygu’r cynllun peilot Hwylusydd Lles. Rwy’n llongyfarch Cult Cymru a 6ft from the Spotlight ar lwyddiant y rhaglen a bod ail rownd ariannu wedi ei gytuno er mwyn datblygu rôl yr Hwylusydd Lles ymhellach. Mae’r cynllun Hwylusydd Lles wedi bod yn enghraifft ragorol o sut mae cyd-weithio rhwng cyrff diwydiant, yr undebau a chyflogwyr yn medru gwneud gwir wahaniaeth wrth gefnogi iechyd meddwl a llesiant. Rwy’n falch iawn bod sawl aelod o TAC wedi ymrwymo i’r cynllun peilot er mwyn sicrhau amgylchedd gweithio diogel, iach a theg ar gynyrchiadau, a byddaf yn annog ein haelodau i barhau i fanteisio o’r cynllun.”
Gwybodaeth bellach am y Rhaglen Hwylusydd Lles:
Cyllid pellach ar gyfer Hwylusydd Lles yn sector sgrin Cymru (llyw.cymru)
Ffurflen gais grant Hwylusydd Lles:
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW