Cadeirydd TAC yn galw am gydweithio gan ddarlledwyr mewn cyfnod o wasgfa economaidd

27 October 2022

Ar ddydd Mercher 26 Hydref 2022 yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol TAC fe wnaeth Cadeirydd Dyfrig Davies alw am gydweithio gan ddarlledwyr er mwyn cefnogi cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru yn y wasgfa economaidd bresennol.

Yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol sydd yn cael ei gynnal yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth, dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:

“Mae’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant gyda chostau cynyddol ar y sector yn cael effaith ar ein sefyllfa ni fel cwmnïau annibynnol yma yng Nghymru; mae’n gyfnod o wasgfa ariannol ac nid yw ein cyllidebau yn cynyddu wrth wneud rhaglenni, ac ni allwn basio hyn ymlaen i’n cwsmeriaid.

“Rwyf felly’n galw heddiw ar y darlledwyr i gydweithio gyda TAC a gyda’n cwmnïau cynhyrchu annibynnol i sicrhau nad yw’r wasgfa yn cael ei weld a’i deimlo ar y sgrin.

“Mae posib arbed amser ac yn fwyaf arbennig arbed arian drwy sicrhau cydweithio effeithiol gyda’r darlledwyr o fewn y prosesau comisiynu, ac mae hefyd angen ystyried y pwysau gwaith ar y gweithlu a llesiant ac iechyd meddwl aelodau’r cwmnïau.

“Mae’n bwysig i mi bwysleisio nad gweld bai ar unigolion o ran comisiynwyr a phenaethiaid yr wyf yn ei wneud, ond yn hytrach gofyn am gydweithio cadarn i greu a chadw at amserlen realistig a bod yn ymarferol o ran llwyth gwaith wrth greu rhaglenni.  Yn y cydweithio a chynllunio effeithiol, gallwn gyflawni mwy am yr arian sy’n prinhau a pharhau i roi ein gwylwyr a’n gwrandawyr yn gyntaf gyda rhaglenni a chynnwys o’r safon uchaf.  Safon ryfeddol o ystyried nad yw’r cyllidebau yn cynyddu dim.

“Mae TAC yn ddiolchgar iawn bod S4C a BBC Cymru wedi ymuno â ni yn y Cyfarfod Blynyddol heddiw fel bod modd i ni gael trafodaethau adeiladol ar y ffordd ymlaen yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni er budd y sector a’r diwydiant darlledu yng Nghymru.”

Cysylltu â ni