Chwarel yn fuddugol yng Ngwobrau Teledu Bafta UK 2021

7 June 2021

Llongyfarchiadau mawr i’r cynhyrchydd Sioned Wyn a’r tîm i gyd yng nghwmni Chwarel ar ennill gwobr Bafta UK nos Sul 6 Mehefin 2021 am y cydgynhyrchiad rhwng Channel 4 ac S4C ‘The Great House Giveaway’ (‘Tŷ am Ddim’) yn y categori ar gyfer Rhaglenni Daytime.

Wrth dderbyn y wobr yn y seremoni ar-lein ar BBC 1, gwnaeth Sioned ei haraith yn Gymraeg, gan ddiolch i Channel 4 ac S4C, ac roedd aelodau’r tîm oedd gyda hi yn amlwg wrth eu bodd o fod wedi ennill.

Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Llongyfarchiadau gwresog i Sioned a’i thîm yn Chwarel. Mae’n braf iawn gweld aelodau TAC yn dod i’r brig mewn categori o safon mor uchel yn erbyn rhaglenni adnabyddus eraill. Dyma’r tro cyntaf i gydgynhyrchiad rhwng S4C a Channel 4 ennill gwobr Bafta UK, a gobeithio bydd llwyddiant pellach i ddod yn y dyfodol. Roedd hi’n wych gweld cynrychiolaeth gref o Gymru yn y seremoni eleni, gydag enwebiadau hefyd ar gyfer cynyrchiadau gan gwmnïau Avanti a Boomerang.ˮ

Cysylltu â ni