Cofio Peter Edwards

20 September 2016

Bu farw Peter Edwards, un o gewri’r diwydiant cynyrchu teledu a ffilm yng Nghymru yn 68 mlwydd oed. Bu Peter yn gyn-gadeirydd TAC ac yn gadeirydd cyntaf Ffilm Cymru Wales.  Roedd yn gyfrifol am nifer o ddramau, gan gynnwys Mwy na Phapur Newydd, Bowen a’i Bartner a’r Heliwr ar S4C, ac fe oedd cyfarwyddwr y gyfres ddrama Pum Cynnig i Gymro, oedd yn seiliedig ar brofiadau John Elwyn Jones yn yr Ail Ryfel Byd a Nuts and Bolts i ITV Wales.

Roedd Peter bob amser yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi talentau ifanc a newydd ac mae llawer yn y diwydiant heddiw sy’n ei gofio fel mentor arbennig.

Yr ydym yn gyrru ein cydymdeimlad dwysaf at Delyth a’r teulu yn eu hiraeth a’u galar.

Cysylltu â ni