Cynhyrchwyr Cymru’n ennill gwobrau gŵyl deledu ryngwladol
20 April 2016
Roedd nifer o gynyrchiadau o Gymru ymhlith enillwyr y New York Film and Television Awrads eleni, gan guro cystadleuaeth o bob cwr o’r byd.
Enillodd ‘Y Gwyll / Hinterland’ (Fiction Factory) y Grand Award a Gwobr Aur ar gyfer drama drosedd, enillodd ‘Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle’ (fflic/Boom Cymru) fedal arian yn y categori chwaraeon, a rhaglen ddogfen ‘Dagrau o Waed: Rhyfel Corea’ (Awen Media/JTV) fedal efydd yn y categori Materion Cenedlaethol/Rhyngwladol. Mi dderbyniodd Green Bay Media Dystysgrif y Rownd Derfynol am ei raglen i S4C, ‘Llond Ceg’.
Dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick: “Mae hon yn enghraifft wych o sut gall uchelgais y sector annibynnol yng Nghymru, ynghyd ag uchelgais S4C ei hun, greu llwyddiant rhyngwladol. Gyda chyllid digonol a llywodraethu cywir, bydd S4C yn gallu gweithio gyda’r sector i gynhyrchu mwy o raglenni o’r fath am flynyddoedd lawer. Gobeithio bydd llwyddiannau fel hyn ym mlaen meddyliau’r Llywodraeth pan fydd yn cynnal adolygiad o S4C y flwyddyn nesaf.”
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW