TAC yn croesawu galwad ASau i ragor o gomisiynau’r BBC gael eu lleoli yng Nghymru
16 June 2016
Mae TAC wedi croesawu’r adroddiad ar ‘Darlledu yng Nghymru’, sydd wedi ei ailgyhoeddi gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:
“Mae gan y Sector cynhyrchu annibynnol llwyddiannus yng Nghymru y gallu i gyflwyno straeon, talent, gogwydd a syniadau i gynulleidfaoedd ledled y DU yn llawer mwy rheolaidd. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod angen i’r BBC gynyddu ei ymrwymiad ar gyfer comisiynu yn y rhanbarthau er mwyn gwneud hynny, a gwneud yn siŵr eu bod mewn cysylltiad llawn â chwmnïau annibynnol ledled Cymru.”
“Mae TAC hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor o’r heriau ychwanegol mae S4C yn eu wynebu bellach oherwydd y nifer gynyddol o ffyrdd a ddefnyddir gan gynulleidfaoedd i wylio cynnwys, a bod angen sefydlu dulliau sydd ddim yn caniatáu gostyngiadau parhaol yn ei hincwm.”
“Byddem wedi croesawu archwiliad manylach o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill megis ITV a Channel 5, yn nhermau’r hyn y gallent ei wneud i adlewyrchu holl genhedloedd y DU, ond ar y cyfan mae’r adroddiad hwn i’w groesawu’n fawr fel rhan o’r drafodaeth ar y ffordd orau o bortreadu ac adlewyrchu Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar ei argymhellion.”
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW