Cyfweliad TAC gyda Ciron Gruffydd – Enillydd Gwobr Goffa Gethin Thomas
7 November 2022

Llongyfarchiadau mawr i ti Ciron ar ennill cystadleuaeth Gwobr Goffa Gethin Thomas yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 am gyfansoddi sgript gomedi i hyd at chwe chymeriad heb fod yn hwy na 30 munud. Allet ti ddweud ychydig mwy am yr hyn rwyt wedi’i ysgrifennu?
Diolch yn fawr! Fe wnes i sgwennu pennod gyntaf comedi sefyllfa, ‘Chips’, sydd wedi ei leoli mewn siop sglodion mewn pentref gwledig yng Nghymru. Mae’n dilyn hynt a helynt y perchennog, Glyn, wrth iddo drio delio a’i alar ar ôl colli ei wraig wrth gael ei dynnu mewn i broblemau’r cymeriadau brith sy’n dod i’r siop i nôl eu swper. Mae’r hiwmor yn weddol absẃrd ac mae’r sefyllfaoedd mae Glyn yn darganfod ei hun yn mynd yn fwy hurt wrth i’r bennod ddatblygu ond yn gefnlen i hynny, roeddwn i hefyd yn ceisio adlewyrchu bywyd gwledig yng Nghymru heddiw. Yn y pentref ble mae’r siop sglodion, mae’r ysgol, y dafarn a’r capel wedi cau felly siop Glyn yw canolbwynt y gymuned erbyn hyn.
Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?
Dwi wedi bod yn ‘sgwennu ers i mi gofio gan gyboli gyda barddoniaeth a rhyddiaith pan oeddwn i’n iau. Ond dwi’n cofio sgwennu sgets deledu am y tro cyntaf a sylweddoli mai dyma’r math o sgwennu dwi’n ei fwynhau fwyaf. Dwi wrth fy modd yn deialogi a dod a chymeriadau’n fyw drwy’r ffordd mae nhw’n siarad. Hefyd, mae’r ochr weledol o sgwennu rhywbeth ar gyfer teledu neu ffilm yn ffordd ddifyr o ddangos stori yn hytrach na’i dweud hi ac mae meddwl am yr elfen yna wrth greu’r gwaith yn lot o hwyl.
Mae’r broses o greu rhywbeth ar gyfer y teledu yn llawer mwy cydweithredol na rhyddiaith neu farddoniaeth hefyd. Mae’n cymryd byddin fechan o bobl i greu’r cyfanwaith yn y pen draw gyda chyfarwyddwr, actorion, cynllunydd set, cynllunydd gwisgoedd a sawl un arall yn rhoi eu syniadau nhw’u hunain i mewn i’r pair er mwyn dod a’r syniad yn fyw ar sgrin. Mae’r elfen yna o gyd-weithio a chyd-greu yn apelio’n fawr i mi.
Nid dyma’r tro cyntaf i ti ennill cystadleuaeth am dy waith ysgrifennu. Enillaist ti le ar gynllun hyfforddi oedd yn cael ei gynnal rhwng S4C ac It My Shout yn 2013. Sut effaith cafodd hyn arnat ti a sut wyt ti wedi datblygu fel awdur ers hynny?
Mi fues i’n lwcus iawn o gael dwy ffilm fer wedi cael eu cynhyrchu gan It’s My Shout. Un yn Saesneg ac un yn Gymraeg. Roedd y profiad o weithio ar yr un Gymraeg yn brofiad anhygoel gan fy mod i a’r cyfarwyddwr, Mared Swain, wedi cael y cyfle i weithio gyda thrigolion pentref Senghennydd ar ganmlwyddiant y trychineb gwaethaf yn hanes y diwydiant glo yng ngwledydd Prydain i greu’r ffilm gyda phobl leol.
Fe wnes i ddysgu llawer o’r profiad ac ers hynny dwi wedi cael cyfle o weithio ar amryw o gynyrchiadau teledu a radio. Rhaglenni plant fel ‘Ysbyty Hospital’ a ‘Hei Hanes!’, wnaeth ennill gwobr Bafta Cymru eleni; cyfresi comedi fel ‘LIMBO’ nes i greu ar gyfer Hansh S4C y llynedd; a’r gyfres ddrama ‘Rownd a Rownd’.
Beth yw gwerth cystadlaethau ysgrifennu fel hyn i awduron?
Mae cystadlaethau yn ffordd wych o ymarfer dy grefft ac yn gyfle i gael beirniadaeth sy’n mynd i gryfhau dy waith di maes o law. Mae o’n gyfle i sgwennu be ti eisiau ei sgwennu heb orfod meddwl am y ffiniau ti’n gorfod cadw atyn nhw yn y byd go iawn – fel cyllidebau, er enghraifft. Os wyt ti ar ddechrau dy yrfa, mae cystadlaethau hefyd yn ffordd wych o gael dy waith di wedi ei weld gan bobl sy’n gweithio yn y diwydiant a ti byth yn gwybod pa gyfleoedd all godi o hynny.
Yn meddwl am dy brofiad dy hun, pa gyngor fyddet ti’n ei roi i awduron ifanc?
Mae gwylio cymaint o deledu a phosib yn ffordd dda o astudio sut mae dramâu, ffilm neu raglenni comedi yn adeiladu byd ac yn defnyddio dialog a thriciau gweledol i dynnu’r gwyliwr i mewn a dweud y stori mewn ffyrdd gwahanol. Mae darllen sgriptiau hefyd yn ffordd grêt o weld sut mae fformatio sgript yn gywir a dod i ddeall sut mae’n darllen cyn y ffilmio.
Un adnodd arbennig i awduron o bob lefel yw’r BBC Writer’s Room. Mae’n hysbysebu cystadlaethau, yn galluogi unrhyw un i ddarllen sgriptiau rhaglenni teledu a radio’r BBC ac yn cynnwys sgyrsiau gydag awduron.
Mae budd hefyd o fynd ar gyrsiau a mynd i gynadleddau, Mae’r digwyddiadau hyn yn ffordd wych o wneud cysylltiadau ac yn ffordd dda o ddysgu am ddulliau awduron gwahanol o weithio.
Pa brosiectau wyt ti’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd a ble gallwn ni weld / glywed mwy o dy waith ysgrifennu?
Dwi ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfres ar-lein fydd yn cael ei chyhoeddi gan S4C flwyddyn nesa. Alla i ddim dweud llawer ar hyn o bryd ond mi fydd hi’n gyfres ddrama i oedolion ac yn gam mawr i ffwrdd o’r prosiectau plant a chomedi dwi wedi bod eu gwneud yn ddiweddar. Dwi’n mwynhau’r profiad yn fawr, a gobeithio y bydd y gwylwyr yn ei fwynhau hefyd.
Diolch o galon Ciron – ac unwaith eto, llongyfarchiadau mawr ar ennill Gwobr Goffa Gethin Thomas!
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW