Cyhoeddi adroddiad Peter Johnston ar brosesau tendr y BBC

20 November 2017

Mae’r BBC wedi cyhoeddi canfyddiadau Peter Johnston, Cyfarwyddwr BBC Northern Ireland ac awdur adroddiad newydd ar brosesau tendro’r darlledwr.

Yn ei gasgliadau, dywedodd Johnston: ‘Mi fu’r broses dendr ar ei ffurf bresennol yn un drylwyr, ond roedd yn cymryd cryn amser i’w chyflawni, ac ym marn nifer o bobl a fu’n ymwneud â hi, roedd ynddi ddiffyg cyfleoedd creadigol.’

Mewn cam pwysig i gwmnïau cynhyrchu, dywedodd hefyd y dylai’r BBC ystyried rhagor o syniadau ar gyfer rhaglenni gwreiddiol drwy ddigomisiynu nifer fwy o raglenni cyfredol ‘pan fod hynny’n gwneud synnwyr o safbwynt y gynulleidfa. Mi fydd cyfleoedd cystadleuol a gaiff eu cyhoeddi yn y modd hwn yn cynnig cyfleoedd creadigol i bob darpar gynhyrchydd, a bydd yn fuddiol i adran BBC Content wrth iddi adnewyddu ei phortffolio mewn dull addas dros gyfnod.’

O ddilyn y drefn hon, mae’n amlwg y daw cynnydd mewn cyfleoedd i gynhyrchwyr teledu gynnig syniadau newydd ar gyfer amserau penodol.

Ymhlith argymhellion eraill Peter Johnston, mae mireinio’r broses o drosglwyddo cynhyrchiad o BBC Studios i gwmni cynhyrchu allanol.

Dywedodd y BBC ei fod ‘wedi ymrwymo i gyfleu elfen gynyddol o gystadleuaeth ymhlith ein cyflenwyr, a byddwn yn parhau i weithredu hyn yn unol â’r gofynion perthnasol o fewn Siarter a Chytundeb y BBC.’

Mi gadarnhaodd y darlledwr fod argymhellion Johnston wedi eu derbyn a’u hymgorffori o fewn y broses dendr ddiweddar ar gyfer y gyfres ‘Doctors’.

Dyma’r canfyddiadau a’r casgliadau yn eu cyfanrwydd (cynnwys Saesneg).

Cysylltu â ni