Cyhoeddi dwy aelod newydd o Gyngor TAC

3 August 2018

Mae TAC yn falch o gyhoeddi bod Nia Ceidiog, perchennog Ceidiog Cyf., a Llinos Griffin-Williams, Uwch Gynhyrchydd Rhaglenni Ffeithiol a Chydgynyrchiadau yn Wildflame Productions, wedi ymuno â Chyngor TAC yn dilyn galwad am aelodau newydd.

Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC, “Mae’n bleser gen i groesawu Nia Ceidiog a Llinos Griffin-Williams i’r Cyngor. Mi fydd profiad helaeth Nia mewn cynhyrchu a chyflwyno’n werthfawr iawn wrth drafod datblygiadau drwyddi draw yn y diwydiant, ac mae maes arbenigol Llinos yn dod â gogwydd rhyngwladol sy’n gynyddol bwysig wrthi gynhyrchwyr Cymru sefydlu rhwydwaith ehangach i gydweithio ag ystod o bartneriaid.

”Mae’n bwysig iawn i Gyngor TAC ein bod yn adlewyrchu amrywiaeth maint y cwmnïau sy’n rhan mor hanfodol o’r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru. Mae Ceidiog a Wildflame yn cyfrannu at y cydbwysedd hwnnw, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfarfod cyntaf y Cyngor ar ei newydd wedd fis nesaf.”

Nia Ceidiog
Nia CeidiogGwneud cyrri wy ar y rhaglen ‘Seren Wib’ oedd cam cyntaf Nia yn ei gyrfa ym myd darlledu. Sefydlodd gwmni annibynnol yn 1996 ar ôl treulio rhai blynyddoedd o flaen y camera a’r tu ôl i’r llenni fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr. Mae’r cwmni bychan hwnnw wedi cynhyrchu rhaglenni plant a dogfennau yn ddi-stop byth ers hynny, ac mae wedi ennill sawl enwebiad a gwobr ar hyd y ffordd. Mae Nia’n credu bydd gwasanaethu ar Gyngor TAC yn rhoi cyfle iddi fod yn lladmerydd dros gwmnïau bach ac i rannu gofidiau a manteision cynhyrchwyr o bob maint yn y cyfnod cythryblus ond diddorol sydd ohoni.

Llinos Griffin-Williams
Llinos Griffin-WilliamsMae Llinos yn Uwch Gynhyrchydd Rhaglenni Ffeithiol a Chydgynyrchiadau yn Wildflame Productions, sydd bellach yn rhan o gwmni byd-eang Flame Group. Hi sy’n arwain tîm datblygu cynnwys rhyngwladol, a bydd yn uwch gynhyrchu ystod o gynnwys ffeithiol i ddarlledwyr mewn nifer o diriogaethau. Graddiodd Llinos mewn Hanes, a gweithiodd i’r BBC cyn ymuno â’r sector annibynnol fel ymchwilydd a chynhyrchydd cynorthwyol cyn dod yn Bennaeth Cynnwys yn Green Bay Media. Mae’n cyd-drefnu grwpiau rhwydweithio’r cyfryngau Push Auto a Women in TV, ac mae’n Is-gadeirydd RTS Cymru.

Cysylltu â ni