Cyhoeddi Gwobr Goffa Gethin Thomas
1 August 2019
Mae TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yn falch o gyhoeddi y bydd yn noddi cystadleuaeth newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020, sef ysgrifennu sgript gomedi, er cof am y diweddar gynhyrchydd a chomedïwr Gethin Thomas. Bydd derbyniad i gyhoeddi’r wobr yn cael ei gynnal yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ddydd Mercher 7 Awst yn Sinemaes.
Mi fydd aelodau TAC yn cynnig gwobr o £400 i’r enillydd am gylch o dair blynedd, ac yn ogystal, mi fydd S4C, BBC Radio Cymru a theatrau ledled Cymru’n darllen y sgript fuddugol i asesu posibiliadau datblygu’r deunydd yn y dyfodol.
Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Roedd Gethin yn aelod o Gyngor TAC am flynyddoedd, ac mae’r golled yn fawr ar ei ôl. Roedden ni fel Cyngor yn awyddus i’w goffáu yn y maes y gweithiodd mor ddiwyd ynddo gydol ei yrfa, sef comedi Cymraeg. Bu hefyd yn mentora a datblygu talent ar y sgrin a’r tu ôl i’r camera, felly mae’n bwysig fod y wobr hon yn adlewyrchu elfen o barhad ar gyfer comedi’r dyfodol.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i holl aelodau TAC sydd wedi cyfrannu at gronfa’r wobr, ac i S4C a Radio Cymru am eu cefnogaeth barod hwythau.ˮ
Yn ystod y derbyniad cyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mi fydd panel o siaradwyr yn trafod gwahanol gyfnodau o fywyd a gyrfa Gethin Thomas sef: Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C, Steffan Wiliam, cyfaill a chydweithiwr o’r cyfnod cynnar, a’r comedïwr Dan Thomas, a fu’n gweithio gyda Gethin dros sawl cyfres a thaith gomedi mwy diweddar.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Luned Whelan, Rheolydd Gweithredol TAC, ar 07388 377478 neu luned.whelan@tac.cymru. Mae TAC yn bartner yn Sinemaes, menter dan ofal Bafta Cymru.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW