Cyhoeddi Llywydd Anrhydeddus cyntaf TAC a dau aelod newydd o’r Cyngor
8 November 2022
Yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol TAC ar 26 Hydref 2022 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth gwnaeth y Cadeirydd Dyfrig Davies gyhoeddi Llywydd Anrhydeddus Cyntaf TAC a dau aelod newydd o’r Cyngor.
Wrth annerch yr aelodau, dywedodd Dyfrig: “Braint yw cael cyhoeddi newydd da bod Cyngor TAC wedi penodi Iestyn Garlick yn Llywydd Anrhydeddus. Mae Iestyn fel actor wedi bod yn sawl wyneb ar y teledu ac mae ei rôl fel cynhyrchydd, cyn gadeirydd TAC, ei ymwneud cyson a ffyddlon â’r sector a’i waith o arwain TAC drwy gyfnodau anodd yn ei wneud yn anrhydedd ei benodi yn Llywydd Anrhydeddus cyntaf TAC.”
Rôl Iestyn Garlick fel Llywydd Anrhydeddus fydd i gefnogi nodau ac amcanion TAC a sicrhau proffil mor uchel â phosib i TAC yn y cyfnod allweddol hwn yn y byd darlledu.
Etholwyd dau aelod newydd i Gyngor TAC yn y Cyfarfod Blynyddol sef Llyr Morus, Pennaeth Cynhyrchu Vox Pictures, ac Arwyn Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Darlun Cyf.
Cychwynnodd Llyr Morus weithio yn y diwydiant 30 mlynedd yn ôl – i gychwyn ym maes adloniant ysgafn cyn symud i weithio ar raglenni plant ac yna i faes Drama. Fel cynhyrchydd, mae ei gynyrchiadau diweddar yn cynnwys Un Bore Mercher/Keeping Faith 3, Cyswllt, Fflam a Dal y Mellt. Mae ei yrfa wedi ei weld yn gweithio yn y byd annibynnol yn ogystal ag aelod o staff BBC Cymru a BBC Studios. Mae Llyr yn gefnogwr brwd dros ddatblygu talent o fewn y diwydiant.
Yn dilyn sefydlu swyddfa yng Nghaernarfon, mae Arwyn Evans a Darlun wedi datblygu enw da am greu fformats teledu gwreiddiol a beiddgar megis Gwesty Aduniad, Helo Syrjeri, ac Ysgol Ni:Moelwyn sy’n rhoi pobl wrth wraidd eu syniadau. Mae’n gweithio gyda sawl darlledwr megis y BBC a S4C yn ogystal â dosbarthwyr rhyngwladol fel SONY TV ac Orange Smarty.
Dywedodd Dyfrig: “Mae gan Llyr ac Arwyn brofiadau helaeth a chyfraniad gwerthfawr i’w gynnig ac rwy’n falch iawn o’u cael yn aelodau o Gyngor TAC.”
Cafwyd cadarnhad bod aelodau cyfredol y Cyngor wedi mynegi eu dymuniad i barhau â’r gwaith dros y flwyddyn i ddod a chafwyd pleidlais unfrydol o blaid hynny:
Dyfrig Davies (Cadeirydd) – Telesgop
Emyr Afan (Dirprwy Gadeirydd) – Afanti
Gareth Williams – Rondo Media
Nia Thomas – Boom Cymru
Angharad Mair – Tinopolis
Sioned Wyn – Chwarel
Bethan Griffiths – Cwmni Da
Sion Clwyd Roberts (cyfetholedig) – Rondo Media
Iestyn Garlick (cyfetholedig) Llywydd Anrhydeddus
Bydd Dyfrig Davies yn parhau fel Cadeirydd am flwyddyn arall cyn trosglwyddo’r awenau i Emyr Afan.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW