Cyhoeddi penodiad Cadeirydd newydd S4C

20 January 2020

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, ei fod yn falch fod yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi cyhoeddi enw darpar gadeirydd newydd S4C. Wrth groesawu cyhoeddi enw Rhodri Williams fel darpar gadeirydd, dywedodd Owen Evans:

“Hoffwn longyfarch Rhodri, ac wedi bron i ddwy flynedd fel aelod o Fwrdd S4C, edrychaf ymlaen at ei gyfarfod cyntaf fel Cadeirydd. Hoffwn hefyd ddiolch yn ddiffuant i Hugh Hesketh Evans, sydd wedi camu i’r adwy ac wedi cadeirio ers mis Medi 2019 pan ddaeth tymor y cyn-gadeirydd, Huw Jones, i ben.ˮ

Cysylltu â ni