Penodi Luned Whelan yn Rheolydd Cyffredinol newydd TAC
6 March 2017
Mae Luned Whelan wedi dechrau yn ei swydd ar ôl cael ei phenodi i swydd Rheolydd Cyffredinol TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru), sy’n cynrychioli sector cynhyrchwyr teledu annibynnol Cymru.
Swyddogaeth Luned fydd cefnogi aelodau TAC o fewn y sector cynhyrchu teledu annibynnol, i warchod buddiannau’r cyfryw gynhyrchwyr ac i gydlynu buddsoddiad y cwmnïau mewn hyfforddiant. Bydd hyn yn golygu cydweithio ag S4C, y BBC, Ofcom, Llywodraeth Cymru a chyrff eraill.
Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC, ‘Mae Cyngor TAC yn falch iawn o groesawu Luned Whelan i swydd y Rheolydd Cyffredinol. Bu Luned yn gweithio yn S4C am nifer o flynyddoedd tan 2010, a bu’n llaw-rydd ers hynny, ac yn cydweithio â nifer o aelodau’r sector. Mae ganddi brofiad gwerthfawr o elfennau allweddol darlledu cyhoeddus ym meysydd cytundebau, hawliau a chyfathrebu, a phrofiad sgriptio a golygu cynnwys i amrywiaeth o gwmnïau cynhyrchu annibynnol.
‘Dros y misoedd nesaf, mi fydd Luned yn brysur yn llunio strategaeth weithredu fydd yn seiliedig ar anghenion y sector gyfan, a sicrhau bod llais yr aelodaeth i’w glywed yn eglur ym mhob trafodaeth o ddatblygiadau hollbwysig y flwyddyn sydd i ddod yn y byd darlledu yng Nghymru.’
Cysylltu
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Iestyn Garlick ar 07974 184764 / iestyn@antena.co.uk neu Luned Whelan: 07388 377478 neu 029 2245 0226 / l.whelan@tac-cymru.co.uk.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW