Cyhoeddi ymateb TAC i archwiliad Pwyllgor y Cynulliad ar ffilm a theledu
17 April 2018
Mae Pwyllgor Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ymateb rhanddeiliaid i’w archwiliad i ‘Ffilm a Chynyrchiadau Teledu Mawr yng Nghymru’.
Mae ymateb TAC yn nodi’n benodol yr angen i Lywodraeth Cymru feithrin gweithdrefn mwy cyfunol, gan sicrhau bod rhanddeiliad allweddol yn ymwneud â materion polisi a bod buddsoddiad mewn denu rhagor o waith cynhyrchu’n canolbwyntio fwyfwy ar y diwydiant cynhenid pan fo’n bosibl.
Yn ogystal, mae TAC yn tynnu sylw at yr angen i greu polisi sgiliau mwy cyfunol, sy’n cyd-fynd â’r gwaith mae TAC yn ei wneud i gynyddu’r ddarpariaeth sgiliau yn y sector.
Gallwch ddarllen ymateb TAC yn ei gyfanrwydd yma.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW