Cynhyrchwyr Annibynnol Cymru yn galw ar y BBC i weithio yn agosach gyda’r Rhanbarthau, ac am ddiogelu cyllideb ac annibynniaeth S4C

3 November 2015

Heddiw, fe wnaeth Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), y corff masnach ar gyfer cynhyrchwyr teledu annibynnol yng Nghymru, gyhoeddi ei ymateb i Bapur Gwyrdd y Llywodraeth ar Adolygiad  Siartr y BBC.

Ynddo mae’r sector yn galw am i’r BBC fynd ati i sefydlu system gomisiynu sy’n galluogi mwy o gystadlu am gomisiynau y BBC gan gynhyrchwyr yng ngwledydd a rhanbarthau y DU.

Mae ymateb TAC hefyd yn bwrw amheuaeth ar y cynllun i symud y rhan fwyaf o gynhyrchu y BBC i fod yn is-gwmni, BBC Studios, a fyddai’n gallu cystadlu â chwmnïau annibynnol ar gyfer comisiynau gan ddarlledwyr eraill.   Mae’r ymateb yn dweud y gallai BBC Studios ‘….ansefydlogi’r sector cynhyrchu sydd eisoes yn ffynnu drwy ddefnyddio ei faint a’i raddfa i ansefydlogi’r farchnad gomisiynu’.

Mae’r ymateb hefyd yn tynnu sylw at oblygiadau’r Adolygiad Siartr i S4C: ‘Mae’n rhaid i ddyfodol y darlledwr Cymraeg S4C, sydd yn alluogwr allweddol ar gyfer y sector creadigol yng Nghymru a’r iaith Gymraeg, gael ei warantu drwy ariannu penodol, a gyda rheolaeth a llywodraethu sydd ddim yn ymwneud yn benodol â’r BBC.’

Mae’r ddogfen yn cynnig y dylai’r BBC ac S4C, lle bo hynny’n briodol, gael eu rheoleiddio gan Ofcom, ond y dylai eu busnes gael ei oruchwylio gan eu byrddau unedol nhw’u hunain, a’r rheiny’n gyfangwbl annibynnol wrth ei gilydd.  Mae’r ymateb hefyd yn galw am warantu cyllid S4C ar y lefelau presennol, a fydd yn gysylltiedig â chwyddiant yn y dyfodol.

Meddai Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:

“Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi dweud bod angen i’r BBC ddangos mwy o ymrwymiad i weithio gyda chynhyrchwyr ledled Cymru.  Mae angen i ni gael mwy o gynnwys sy’n cael ei wneud gan bobl yng Nghymru, nid yn unig ar gyfer Cymru, ond hefyd ar gyfer yr adloniant a’r dealltwriaeth y gallant ei roi i bawb sy’n cyfrannu at dalu’r Ffi’r Drwydded. ”

Gan droi at S4C, dywedodd:

“Mae dyfodol S4C ynghlwm gyda’r Arolwg o’r Siartr.  Mae angen i S4C ddod allan o’r broses gyda lefel warantedig o gyllid wedi’i warchod, ac yn gysylltiedig â chwyddiant, a gyda system lywodraethu nad sydd wedi ei gynllunio ar gyfer pwrpas darlledwr arall, h.y. y BBC “.

“Mae’r Llywodraeth wedi dweud dro ar ôl tro y dylai S4C fod yn annibynnol yn rheolaethol ac yn olygyddol, ac mae hyn yn gyfle i sicrhau mai dyma fydd y drefn o hyn ymlaen.”

Ymtaeb TAC i Adolygiad Siarter y BBC DCMS PAPUR GWYRDD 2015

Cysylltu â ni