Cynhyrchwyr annibynnol Cymru’n galw am gynnydd o 10% i gyllid S4C
16 March 2017
Heddiw, mi ddywedodd TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) wrth Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod angen cynnydd un-tro o 10 y cant o gyllideb S4C ar unwaith, er mwyn galluogi i’r darlledwr weithredu’n effeithlon wrth symud ymlaen.
Bu Cadeirydd TAC Iestyn Garlick (Antena), ac un o aelodau Cyngor TAC, Gareth Williams (Rondo Media), yn ateb cwestiynau ar ymateb TAC i ymgynghoriad y pwyllgor i ddyfodol S4C.
Seiliwyd dadl TAC dros ariannu ychwanegol ar y ffaith fod lefel ailddarllediadau ar S4C wedi codi i oddeutu 57% erbyn hyn, a bod angen mwy o gynnwys gwreiddiol ar y sianel. Yn ogystal, mae gofyn bod y cynnwys ar gael ar bob llwyfan bosibl er mwyn cydweddu ag arferion gwylio’r gynulleidfa.
Ar ôl sesiwn y Pwyllgor, dywedodd Iestyn Garlick: “Mae’n hanfodol cynnal presenoldeb y sianel ar deledu, ond ar ben hynny, mae angen i S4C ddarparu gwasanaeth o safon i’r nifer gynyddol o wylwyr sy’n cyrchu cynnwys ar wahanol lwyfannau. Mae’n werth cofio hefyd bod unrhyw fuddsoddiad ychwanegol yn S4C yn dyblu ei werth o ran ei gyfraniad at y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac at economi’r DU yn gyffredinol.”
Galwodd TAC hefyd am i’r gyfran o gyllid S4C sy’n deillio o Ffi’r Drwydded Deledu gael ei gwahanu’n llwyr oddi wrth y BBC, er mwyn sicrhau na fyddai atebolrwydd yn ddyledus i’r BBC yn y dyfodol.
Yn ôl Iestyn Garlick: “Gan fod Ymddiriedolaeth y BBC, a oedd yn sefydliad hyd braich, yn cael ei diddymu, nid yw’n briodol mwyach i S4C fod yn atebol i Fwrdd y BBC. Ni ddylai’r un darlledwr fod yn medru ymhél â gweithdrefnau darlledwr arall. ”
Cysylltu:
Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC: 07974 184 764
Tim Wilson, Ymgynghorydd Polisi: 07909 560 374
- Cyflwyniad TAC i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
- Gwybodaeth bellach am ymgynghoriad y Pwyllgor.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW