Cynhyrchwyr Teledu Cymru’n cyhoeddi maniffesto polisi a gwefan newydd
10 March 2015
Heddiw mae Cynhyrchwyr teledu yng Nghymru yn lawnsio maniffesto polisi ar gyfer y Llywodraeth nesaf i’w roi ar waith er mwyn sicrhau twf parhaus yn y sector.
Mae Maniffesto TAC, a gynhyrchwyd gan y corff masnach Teledwyr Annibynnol Cymru, yn nodi ystod o bolisïau sydd yn ymwneud â dyfodol S4C, y BBC, gostyngiadau treth ar gyfer cynhyrchiadau teledu ar y lefel uchaf, ac i hyrwyddo Cymru dramor yn well.
Dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:
“Mae’r sector teledu creadigol Cymru wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros y blynyddoedd diwethaf i addysgu llunwyr polisi am bwysigrwydd ein diwydiannau creadigol yng Nghymru,ac un o’r prif ddiwidiannau hynny ydy Cynhyrchu Rhaglenni Teledu.”
“Mae pethau, fel parhau i fuddsoddi gan y BBC, S4C a darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill yn hanfodol yn ystod y blynyddoedd nesaf, er mwyn cyflawni disgwyliadau pobl fod eu hardaloedd yn cael ei adlewyrchu yn yr hyn maent yn ei weld ar y teledu, a bod Cymru’n cael ei gyflwyno i gynulleidfa ehangach.”
“‘ Mae Y Gwyll / Hinterland’, a gynhyrchwyd gan gwmni Fiction Factory yn un enghraifft o sut y gallwn godi ein disgwyliadau fel sector creadigol. Os bydd ein hargymhellion yn cael eu hystyried, yna bydd y sector mewn sefyllfa dda i ddatblygu ymhellach ac i gynhyrchu rhaglenni uchelgeisiol i’w dosbarthu yn Fyd-eang.”
“Felly, rydym yn gobeithio bydd y Llywodraeth nesaf yn cymryd sylw o’r polisïau hyn , ac edrychwn ymlaen at drafodaethau gyda nhw ar y materion hyn.”
Mae Maniffesto TAC ar gael ar wefan newydd mae TAC wedi ei lawnsio heddiw ar:
www.tac-cymru.co.uk
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW