>

Darpariaeth S4C o Gwpan Rygbi’r Byd 2019: gwahoddiad i dendr

3 August 2018

Mae S4C wrthi’n cwblhau’r cytundeb darlledu teledu ac ar-lein yn Gymraeg ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn Japan. Mae’r hawliau wedi eu seilio ar ddarlledu’r arlwy canlynol: naw gêm, gan gynnwys y seremoni agoriadol a’r gêm cyntaf; pedair gêm Grŵp D, un gêm go-gyn-derfynol, un gêm gyn-derfynol, gêm y trydydd safle a’r gêm derfynol.

Uchelgais S4C yw sicrhau’r gwasanaeth gorau i’r gwylwyr. Ein bwriad yw comisiynu darpariaeth awdurdodol sy’n cyfleu naws y digwyddiad byd-eang hwn.

Mae hwn yn gyfle i sefydluS4C fel prif wasanaeth Cwpan Rygbi’r Byd o safbwynt Cymreig.

Dyddiad cau: 10.08.18

Manylion pellach ar wefan cynhyrchu S4C.

Cysylltu â ni