>

Datganiad Cadeirydd TAC ar Wcráin

7 March 2022

Rydym oll wedi ein tristau gyda’r sefyllfa argyfyngus yn Wcráin, ac mae TAC yn anfon ein cefnogaeth di amwys i bobl Wcráin yn wyneb yr erchyllterau a’r argyfwng dyngarol hwn.

Mae aelodau ein Cyngor yn unfrydol gytûn bod TAC yn rhoi cefnogaeth lawn i safiad S4C ar y sefyllfa:

Datganiad S4C:

“Yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin, a’r sancsiynau rhyngwladol sydd wedi eu gosod ar Rwsia, mae S4C yn torri pob cysylltiad â Rwsia.

“Mae’r sianel yn gofyn i’r holl gwmnïau sy’n gwerthu a thrwyddedu rhaglenni ar ei rhan i atal unrhyw gysylltiad pellach. Mae S4C hefyd yn ymchwilio i fuddsoddiadau gan S4C Masnachol i sicrhau nad oes cysylltiad â Rwsia. Yn ogystal mae’r sianel yn annog yr holl gwmnïau sy’n darparu cynnwys ar ei chyfer i atal unrhyw gysylltiad neu ymwneud pellach gyda Rwsia.”

Erfyniaf am eich cefnogaeth chithau er mwyn sicrhau torri pob cysylltiad â Rwsia ac i atal unrhyw fusnes pellach o fewn ein diwydiant. Oes oes angen unrhyw gyngor neu arweiniad arnoch, yna cysylltwch â TAC ar bob cyfri.

W. Dyfrig Davies
CADEIRYDD TAC

Cysylltu â ni