Datganiad TAC ar Adroddiad Pwyllgor Cynulliad Cymru ar S4C

3 August 2017

Mae TAC wedi ymateb heddiw i adroddiad Pwyllgor Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cymru ar S4C.

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC, a fu’n rhoi tystiolaeth ger bron y Pwyllgor yn ystod ei ymgynghoriad: “Er ein bod yn croesawu rhai o gasgliadau’r Pwyllgor, cawsom ein synnu o weld yr adroddiad yn datgan bod:  ‘tystion wedi bod yn llai eglur ar lefel yr ariannu ychwanegol sydd ei angen’. Er mwyn gostwng lefel gyfredol cyfradd ailddarllediadau, a sicrhau bod cynnwys gwreiddiol digonol gan y gwasanaeth, mae TAC wedi pwysleisio’n gyson fod gofyn gwneud cynnydd un-tro o 10% i gyfanswm lefel ariannu cyhoeddus S4C (gan DCMS a’r Ffi Drwydded). Mae hwn yn swm o oddeutu £8.2m ar ben y £6m ychwanegol mae S4C wedi dweud sydd ei angen arni i weithredu’n llwyddiannus ar ystod eang o lwyfannau. Mi ddylai’r ariannu fod yn gysylltiedig â chwyddiant hefyd.”

“Yn ogystal, mae’r adroddiad yn awgrymu y dylid adolygu’r Telerau Masnach sy’n rheoleiddio comisiynau darlledwyr gan gynhyrchwyr annibynnol. Cafodd y Telerau Masnach hyn eu hadolygu gan Ofcom prin ddwy flynedd yn ôl, a’u cael yn addas at bwrpas. Maent yn hanfodol i lwyddiant byd-eang y diwydiant teledu yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig, a buasai eu tanseilio mewn unrhyw fodd yn niweidiol i’n manteision cystadleuol ni mewn sector twf allweddol.”

“Mi ddylai’r Adolygiad sydd ar ddod ganolbwyntio ar sicrhau bod gwaith S4C yn gynaliadwy yn y dyfodol, sy’n golygu cydweithio gydag ystod eang o gwmnïau cynhyrchu ledled y wlad; cwmnïau sydd hefyd yn gweithio’n galed i ennill llwyddiant ledled y DU ac yn rhyngwladol.”

-DIWEDD-

Cysylltu:              Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC: 07974 184 764 / Tim Wilson, Ymgynghorydd Polisi: 07909 560 374

Nodiadau:

  1. Cyflwyniad TAC i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
  2. Ysgrifennodd TAC at y Pwyllgor ddwywaith eto yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad er mwyn:

a

  1. Gwybodaeth bellach ar ymchwiliad y Pwyllgor.

Blaenoriaethau Polisi TAC – mae angen i’r Adolygiad o S4C gyflawni’r isod:

  1. Ariannu:
    • Mae cyfradd ailddarllediadau S4C bellach wedi cyrraedd 63%. Mae hyn yn annerbyniol, ac mae angen cynnydd o 10% mewn ariannu cyhoeddus er mwyn comisiynu rhagor o gynnwys
    • Golyga hyn 10% o gyfanswm y ddwy ffynhonnell o ariannu cyhoeddus. Cyfanswm y rhain ar hyn o bryd ydy  oddeutu £82m, sef c. £75m gan y Ffi Drwydded a c. £6.7m gan DCMS
    • Mae TAC yn dymuno gweld cyfraniad ychwanegol o £8.2m ar ben y £6m mae S4C wedi datgan sydd ei angen i ddatblygu llwyfannau digidol, gan roi hawl i S4C gynhyrchu allbwn digidol yn swyddogol, a gosod y lefel addas o ariannu a fydd yn caniatáu hyn.
    • Rhaid cysylltu ariannu cyhoeddus S4C â chwyddiant yn ogystal (fel yn achos y BBC).
  2. Cynnal Annibyniaeth:
    • Ni ddylai S4C fod yn atebol i ddarlledwr arall, yn benodol y BBC, fel y mae ar hyn o bryd. Dylai’r arian a glustnodir i S4C o Ffi’r Drwydded Deledu gael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i Awdurdod S4C neu i Ofcom yn hytrach na mynd drwy’r BBC.
    • Mae cynnal amlygrwydd S4C yn y ddewislen sianeli (EPG) yn hanfodol i atgyfnerthu ei hunaniaeth fel gwasanaeth neilltuol a phwysig, yn yr un modd â darparwyr eraill gwasanaethau darlledu cyhoeddus
    • Dylai’r cyfrifoldeb llywodraethol dros S4C aros ar lefel Llywodraeth y DU. Mae S4C yn rhan o dirwedd ddarlledu ehangach y DU. Dylid ei chanfod yn y cyd-destun hwn, a gwneud penderfyniadau polisi yn unol â hyn
    • Mi fuasai TAC yn gefnogol i i sefydlu Bwrdd undodaidd ar gyfer S4C fel yn achos y BBC, ond mi fyddai’n dal i fod angen rheoleiddiwr ar wahân i Ofcom arno i adlewyrchu cyd-destun Cymru yn benodol. Gallai’r corff rheoleiddio hwn adrodd i Ofcom yn ei dro, ond byddai gofyn bod ganddo dîm polisi cydnerth.
  3. Partneriaeth gref gyda’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru:
    • Mae S4C yn dibynnu ar y sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i gyflenwi cynnwys iddi (40-50 o gwmnïau gweithredol), ac ni all fodoli hebddo
    • Roedd y Cytundeb Gweithredu blaenorol rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC (cymal 2.6) yn datgan: ‘Dylai S4C gomisiynu’r mwyafrif helaeth o’i chynnwys gan gwmnïau cynhyrchu annibynnol’ ac mai ‘cyfran fechan o’r holl gynnwys a gomisiynir gan S4C [ddylai comisiynau S4C gan y BBC fod]’
    • Oherwydd nad yw’r Cytundeb Gweithredu hwn yn ddilys bellach (yn dilyn diddymiad Ymddiriedolaeth y BBC), rhaid i’r gofyniad hwn gael ei fynegi’n gwbl eglur yng ngorchwylion craidd S4C er mwyn sicrhau bod ymrwymiad i gynnal a chynyddu’r sector annibynnol wrth galon amcanion S4C.

Cysylltu â ni