Datganiad TAC ar adolygiad PSB Ofcom
2 July 2015
Datganiad TAC ar adolygiad PSB Ofcom
Dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:
“Rydym yn croesawu casgliadau pwysig yr adroddiad hwn mewn nifer o feysydd. Yn gyntaf mae’n cefnogi parhad y rheoliadau cyfredol ar y telerau masnach a’r cwota cynhyrchu annibynnol, sydd wedi bod yn allweddol i’n sector ddod yn ddiwydiant Fyd eang.
Yn ail, rydym yn nodi ac yn cytuno â chasgliad Ofcom fod y BBC yn parhau i fod yn gonglfaen DGC a bod y Siarter nesaf yn hollbwysig ar gyfer ei dyfodol.
Yn drydydd, rydym hefyd yn cytuno ag Ofcom bod y gostyngiad mewn teledu plant yn peri pryder mawr – mae’n ardal lle mae aelodau TAC yn cynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel ar gyfer S4C, CBBC a CBeebies a sydd, am resymau diwylliannol ac addysgol yn eithriadol o bwysig.
Yn olaf, rydym hefyd yn cytuno ag Ofcom bod comisiynu yng Nghymru wedi gostwng yn gyffredinol ac mae’r rhan fwyaf o’r hyn sy’n cael ei gomisiynnu yn dod drwy law y BBC a hefyd S4C. Rydym yn croesawu fod Ofcom yn pwysleisio pwysigrwydd S4C i’r sector annibynnol yng Nghymru.”
Adolygiad PSB Ofcom: http://media.ofcom.org.uk/news/2015/psb-review-statement/?utm_source=updates&utm_medium=email&utm_campaign=psb-review-3-statement
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW