>

Datganiad TAC ar Adolygiad S4C

29 March 2018

Heddiw, cyhoeddodd TAC ei sylwadau ar gyhoeddiad yr Adolygiad annibynnol o S4C ac ymateb Llywodraeth y DU.

Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC:

“Mae TAC yn croesawu cwblhad yr adolygiad cyntaf o S4C ers dros ddegawd.

Rydyn ni’n croesawu’r ffaith y bydd gan S4C fwy o ryddid i weithredu ar draws platfformau gwahanol er mwyn darparu cynnwys i’r gynulleidfa, ynghyd â chyfle i ystyried ffynonellau ariannu amgen ac archwilio cyfleoedd masnachol drwy gydweithio ag ystod o bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Rydym yn nodi bod Euryn Ogwen Williams yn cytuno â’r “mwyafrif o’r cyfranwyr a ddywedodd mai’r peth pwysicaf i S4C yw sefydlogrwydd a thryloywder o ran cyllid.”  Mae TAC yn croesawu’r ymrwymiad tymor byr i’r lefel ariannu gyfredol gan DCMS ar gyfer 2018/19 a 2019/20.  Nid oes ymrwymiad o’r fath wedi ei wneud ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol, fodd bynnag.

Buasem yn croesawu eglurhad gan y llywodraeth ar sut gellir sicrhau bod model ariannu S4C yn y dyfodol yn gynaliadwy. Hoffem dderbyn sicrhad gan y llywodraeth, o 2022/23 ymlaen, na fydd cyfanswm cyllid S4C o’r Ffi Drwydded yn llai na chyfanswm yr ariannu cyfunol cyfredol sy’n dod gan y Ffi Drwydded a grant DCMS, ac y bydd yn gysylltiedig â chwyddiant.

Mae TAC mewn sefyllfa gadarn i gynrychioli’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru. Mae ein Rheolydd Cyffredinol, a benodwyd y llynedd, ac sy’n gwbl annibynnol ar unrhyw aelod-gwmni, wedi cynyddu ein haelodaeth yn sylweddol. Mae ein haelodau wedi eu lleoli ledled Cymru, a cheir cynrychiolaeth gan ystod o gwmnïau ar Gyngor TAC. Nod cynllun hyfforddiant a sgiliau TAC yw sicrhau bod gan bob cwmni o fewn y sector cynhyrchu fynediad i gyrsiau a chefnogaeth o safon uchel a fydd o gymorth i’w busnesau dyfu a datblygu.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos gyda S4C ar y camau nesaf yn ei datblygiad.”

Cysylltu â ni