TAC yn croesawu adroddiad Tŷ’r Arglwyddi ar Channel 4

11 July 2016

Datganiad TAC ar Adroddiad Pwyllgor Cyfathrebu Tŷ’r Arglwyddi ar Channel 4

Dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:

“Rydym yn croesawu’r casgliad pwysig yn yr adroddiad hwn y dylai Channel 4 barhau i fod mewn perchnogaeth gyhoeddus. Rydym yn nodi ac yn cytuno â chasgliad y Pwyllgor, sef y gallai’r ‘nifer o raglenni a maint y buddsoddiad a wnaed yn y gwledydd a’r rhanbarthau, hynny yw, y tu allan i Lundain, gael ei effeithio’n andwyol o ganlyniad i breifateiddio C4C.’ (para 148).”

“Rydym hefyd yn yn cytuno gyda’r pwyllgor ‘na all unrhyw system o reoleiddio gynnal natur gwasanaeth cyhoeddus nac athroniaeth presennol yn gwbl wrthrychol os caiff C4 ei breifateiddio.”
“Yn olaf, rydym hefyd yn croesawu’r ffaith fod y pwyllgor wedi pwysleisio pwysigrwydd Channel 4 i’r sector annibynnol. Rydym yn gobeithio bydd y Llywodraeth yn talu sylw i’r adroddiad hwn ac yn caniatáu i Channel 4 i aros mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac y bydd yn dod â diwedd i’r ansicrwydd sydd wedi bod yn cyniwair ers dros flwyddyn.”

Adolygiad Pwyllgor Cyfathrebu Tŷ’r Arglwyddi

Cysylltu â ni