Datganiad TAC ar Gyhoeddiad Setliad Ffi’r Drwydded Deledu
18 January 2022
Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:
“Rydym yn falch iawn o weld cynnydd yn y cyllid ar gyfer S4C. Cefnogodd TAC yr achos yn gryf, ac edrychwn ymlaen at weld sut y bydd S4C yn gweithredu ei gynlluniau i gomisiynu rhaglenni o ansawdd uchel gan y sector cynhyrchu annibynnol mewn tirwedd cyfryngau aml-lwyfan. Bydd hyn yn sicrhau parhad gwasanaeth i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yng Nghymru ac i gynulleidfa eang yn y DU a ledled y byd.”
“Ar y cyfan fodd bynnag, bydd rhewi Ffi’r Drwydded Deledu am ddwy flynedd yn creu anawsterau sylweddol i’r BBC sydd, fel sefydliad cyfryngau sy’n arwain y byd, yn gwneud gwaith pwysig iawn o ran cefnogi diwydiannau creadigol y DU. Mae hyn yn creu gwerth economaidd a diwylliannol enfawr gan gynnwys i Gymru, ac mae gennym bryderon mawr am y penderfyniad hwn a’r effaith y bydd yn ei chael ar y diwydiannau creadigol ar adeg pan maent yn dal i adfer o effeithiau pandemig COVID-19.”
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW