Datganiad TAC ar sylwadau Matt Hancock AS, Gweinidog DCMS ar ariannu S4C
18 January 2017
Datganiad TAC ar sylwadau Matt Hancock ar ariannu S4C mewn dadl yn Neuadd Westminster 18.01.17
Ymatebodd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), sy’n cynrychioli cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, i ddatganiad am S4C a wnaeth Gweinidog DCMS Matt Hancock AS ar ran y Llywodraeth yn ystod dadl yn Neuadd Westminster ar ariannu S4C.
Dywedodd Cadeirydd TAC Iestyn Garlick:
“Mae’r arian y mae S4C yn ei fuddsoddi yn yr economi creadigol o bwys sylweddol. Nid yn unig y mae’n annog twf o fewn y diwydiannau creadigol, ond mae hefyd yn creu sefydlogrwydd fel y gall cwmnïau fuddsoddi yn y dyfodol – nid yn unig o ran buddosoddi mewn adnoddau a thechnoleg fydd hynny, ond mewn pobl yn ogystal.
“Mi fyddwn yn dymuno i’r un sicrwydd gael ei roi y bydd y Grant o £6.7m, a ddaw o’r DCMS, yn aros yn ei le yn ystod cyfnod yr Adolygiad ar S4C.”
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW