Datganiad TAC ar ddogfen S4C ‘Gwthio’r Ffiniau’

7 April 2017

Heddiw, mae TAC, sy’n cynrychioli cwmnïau annibynnol yn y sector cynhyrchu teledu, wedi ymateb i adroddiad newydd S4C, sy’n manylu ar uchelgais y gwasanaeth ar gyfer y dyfodol, a’r elfennau sy’n hanfodol er mwyn iddo lwyddo.

Dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:

“Rydyn ni’n croesawu datganiad S4C o’i gweledigaeth, ac yn cytuno bod gofyn i’r ddarpariaeth ehangu’r tu hwnt i’r gwasanaeth teledu craidd i fod yn bresennol ar lwyfannau eraill er mwyn diwallu anghenion cyfoes.

“Mae’n gwbl eglur i’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru fod angen cynyddu lefel ariannu S4C hyd nes y gall sicrhau cyfradd uwch o gynwys gwreiddiol.

“Rydyn ni’n awyddus i gydweithio gydag S4C i wneud y defnydd gorau o’r cynnyrch hwnnw yn rhyngwladol, gan barhau i gynnal yr egwyddor cyfreithiol fod hawliau eiddo deallusol yn berchen i’r cynhyrchydd.

“Bellach, rydyn ni’n gobeithio y bydd llywodraeth y DU yn parhau â’r adolygiad o S4C cyn bo’n hir, er mwyn i ni fedru craffu’n drylwyr ar bob agwedd o ddyfodol S4C.”

DIWEDD

Cysylltu â ni