Datganiad ar gyhoeddiad y Llywodraeth o adolygiad o S4C

3 February 2016

Heddiw, croesawodd TAC benderfyniad y Llywodraeth i atal toriadau i grant y Llywodraeth ar gyfer S4C, ac i gynnal adolygiad ar gwmpas a chylch gorchwyl gwaith S4C.

Meddai Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:

“Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi gwrando ar ein sector, yn ogystal â’r holl ASau sydd wedi ein cefnogi ni ac S4C.

“Bydd yr adolygiad, rydym yn gobeithio, yn paratoi’r ffordd ar gyfer ateb llawn a thymor hir i’r mater o gyllid cynaliadwy a gwarantu annibyniaeth S4C.

“Bydd TAC yn parhau i gydweithio â’r Llywodraeth ac ag Aelodau Seneddol o bob plaid i sicrhau bod rôl S4C yn parhau fel sbardun allweddol ar gyfer twf ymhlith y 55 a mwy o gwmnïau cynhyrchu sydd yng Nghymru.”

DCMS

 

Cysylltu â ni