Datganiad TAC ar refferendwm yr UE

28 June 2016

Yn y refferendwm yr wythnos diwethaf, cafwyd mwyafrif bychan o blaid y cynnig y dylai’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cyn y bleidlais, roedd llawer o bobl yn y diwydiannau creadigol, gan gynnwys y sector teledu annibynnol, wedi mynegi pryder ynghylch effeithiau pleidlais o’r fath ar eu busnesau.

Bydd TAC yn gofyn am sicrwydd gan Swyddfa Cymru, DCMS a Llywodraeth Cynulliad Cymru fod y cyllid a dderbynir ar hyn o bryd gan yr UE ar gyfer sgiliau a chynhyrchu yn aros fel y mae, ac y bydd y llywodraeth yn blaenoriaethu’r diwydiannau creadigol wrth geisio adeiladu marchnadoedd y tu allan i’r UE.

Byddwn yn cydweithio â phob sefydliad perthnasol a llunwyr polisïau i geisio sicrhau bod y sector yn parhau i elwa ar fynediad i farchnadoedd Ewropeaidd yn ogystal â thu hwnt, a bod y sector yn gallu parhau i gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth o ddarlledwyr yn y DU ac yn rhyngwladol.

Cysylltu â ni