>

BBC – Datganiadau TAC ar Adolygiad y Siarter

12 May 2016

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, y corff masnach ar gyfer cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru:

“Mae TAC yn croesawu’r mesurau hynny sy’n rhoi cyfle i gynhyrchwyr annibynnol gynnig am fwy o raglenni gan y BBC. Mae gan y sector annibynnol Cymraeg record gref ac rydym yn hyderus y gallwn ennill rhagor o gomisiynau, a thrwy hynny alluogi’r BBC i adlewyrchu’n well y straeon, safbwyntiau a phobl Cymru i weddill y DU a thu hwnt. Rydym hefyd yn croesawu y galw ar BBC Studios i weithredu ar sail gystadleuol deg, er mwyn i’n  cynhyrchwyr fedru cystadlu mewn marchnad deg.”

“Rydym yn falch o weld bydd y cwota o waith ‘tu allan i Lundain’ yn parhau, ynghyd ag ymrwymiad i ariannu ac adolygiad S4C, a bod Alun Cairns a Guto Bebb wedi cefnogi’r sector creadigol yng Nghymru ac wedi gweithio gyda DCMS i greu’r cynigion hyn “.

Cysylltu â ni