Dau Aelod o Gyngor TAC yn cael eu hanrhydeddu i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

15 August 2023

Dau Aelod o Gyngor TAC yn cael eu hanrhydeddu i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

Cafodd dau aelod o Gyngor TAC eu hurddo i Orsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddydd Gwener 11 Awst, 2023 am eu cyfraniad arbennig i’r celfyddydau a’r cyfryngau yng Nghymru.

Yn derbyn y Wisg Las, cafodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC ei anrhydeddu am ei weithgaredd gwirfoddol a phroffesiynol dros ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg, a’i waith allweddol i gefnogi cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol Cymru.  Mae Dyfrig wedi gwneud cyfraniad sylweddol wrth feithrin perthynas gref TAC gyda darlledwyr, partneriaid a chynrychiolwyr gwleidyddol, ac mae’n angerddol dros ddatblygu sgiliau a hyfforddi pobl ifanc i weithio yn y diwydiant darlledu yng Nghymru.  Mae Dyfrig yn Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni cynhyrchu Telesgop.

Yn derbyn y Wisg Werdd, cafodd Sioned Wyn, aelod o Gyngor TAC ei anrhydeddu am ei chyfraniad i’r celfyddydau ac mae’n un o’r cynhyrchwyr teledu mwyaf blaenllaw yng Nghymru.  Drwy sefydlu Cwmni Chwarel yng Nghricieth, mae Sioned wedi profi y gellir sefydlu cwmni llwyddiannus mewn unrhyw ardal yng Nghymru gan ennill gwobrau BAFTA, RTS a Broadcast am ei rhaglenni.  Mae Chwarel yn gwmni cynhyrchu hynod greadigol sydd wedi bod yn gwneud cynnwys ffeithiol ers dros ugain mlynedd gan chwarae rhan gadarnhaol yn economi greadigol Gogledd Cymru.

Llongyfarchiadau mawr i’r ddau!

Cysylltu â ni